Mynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hwynebu wrth gyrchu cymorth lles
Ers blynyddoedd lawer, mae Leicestershire Cares wedi gweithio gyda chynghorau lleol, busnesau, y gymuned a phobl sy’n gadael gofal i gynorthwyo pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i gael sefydlogrwydd a hapusrwydd yn eu bywydau. Mae eu hymgyrch bresennol yn adeiladu ar eu llwyddiannau, a’i nod yw newid polisïau lles er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gyrchu Credyd Cynhwysol a mathau eraill o gymorth lles.
Bob blwyddyn mae’n rhaid i gannoedd o bobl ifanc wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar yr un pryd ag y maent yn symud allan o ofal a mynd i fyw’n annibynnol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael trafferthion ariannol wrth iddynt aros am y cyfnod o bum wythnos cyn derbyn eu taliad cyntaf, gan nad oes gan y rhan fwyaf ohonynt deulu i ddibynnu arnynt am gymorth.
Mae heriau eraill yn cynnwys rheoli taliadau misol (yn hytrach nag wythnosol) er mwyn osgoi mynd i ôl-ddyledion neu ddyled; rheoli cartref ar y gyfradd o dan 25 oed ar gyfer Credyd Cynhwysol; a gorfod esbonio’u sefyllfa sawl tro gwahanol i hyfforddwyr gwaith gwahanol. Mae pobl sy’n gadael gofal hefyd deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu cosbi na hawlwyr eraill.
Mae Leicestershire Cares yn gweithio gyda grŵp o’i phobl ifanc ar brosiect o dan arweiniad y Sefydliad Dysgu a Gwaith, i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn a darbwyllo ASau lleol, awdurdodau lleol a Chanolfannau Byd Gwaith i wneud newidiadau i wella’r sefyllfa.
Ynghyd â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, maent wedi datblygu chwe gofyniad polisi allweddol rydym eisiau eu gweld yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer pobl sy’n gadael gofal:
- Penodi arweinydd dynodedig ym mhob Canolfan Byd Gwaith, sy’n canolbwyntio ar bobl sy’n gadael gofal
- Cyflwyno ‘nod’ system ar gyfer pobl sy’n gadael gofal pan fônt yn mynd i’r system les
- Dylai pob unigolyn sy’n gadael gofal fod â hawl i Gredyd Cynhwysol ar y gyfradd ar gyfer pobl dros 25 oed
- Yr hawl i grant taliadau ymlaen llaw (nid benthyciad) fel nad oes rhaid i chi dalu hyn yn ôl
- Protocol uwchgyfeirio cam wrth gam, clir ar gyfer cyflwyno cosbau, fel na ellir cosbi pobl sy’n gadael gofal heb ymgynghori â’u cynorthwyydd personol yn gyntaf
- Dylai pawb sy’n gadael gofal fod yn esempt rhag talu’r dreth gyngor, nes eu bod yn 25 oed
Gallwch wrando ar bobl ifanc yn siarad am y materion hyn yn eu pennod newydd sbon o Fostering a New Approach, eu podlediad am y profiad o fod mewn gofal.
Hyd yn hyn, mae eu pobl ifanc wedi cwrdd ag ASau, cynghorwyr a staff gwasanaethau plant lleol yng Nghyngor Dinas Caerlŷr a Chyngor Sir Swydd Gaerlŷr i feithrin consensws a chefnogaeth dros ein gofynion polisi ar draws y pleidiau gwleidyddol lleol.
“Yn aml, nid oes gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal deulu i ddibynnu arnynt am gyngor neu gymorth ariannol, felly mae’n hynod bwysig ein bod yn cael yr help sydd ei angen arnom oddi wrth y llywodraeth a’n hawdurdod lleol.
Bydd ein chwe gofyniad polisi yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sy’n gadael gofal, ac yn cael gwared ar lawer o’r straen sy’n gysylltiedig â byw ar fudd-daliadau a rheoli cartref mor ifanc.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gwleidyddion, gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau plant a Chanolfannau Byd Gwaith ledled Caerlŷr a Swydd Gaerlŷr, yn ogystal â llunwyr polisi cenedlaethol, i wireddu’r newidiadau hyn ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.”
Casey, person ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal