ERTHYGL JOURNAL

Awduron: Clive Diaz, Hayley Pert, Nigel Thomas

Blwyddyn: 2018

Crynodeb:

Mae’r erthygl hon yn trafod cyfarfod allweddol i blant mewn gofal – yr Adolygiad Plentyn mewn Gofal – ac yn archwilio i ba raddau y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan a rhoi lefel o reolaeth dros eu bywydau. Roedd yr ymchwil, a gynhaliwyd yn Lloegr, yn rhan o archwiliad ehangach o farn a phrofiadau pawb a fu’n rhan o adolygiadau o’r fath, sef Swyddogion Adolygu Annibynnol (IROs), gweithwyr cymdeithasol, uwch reolwyr a – ffocws yr erthygl hon – y bobl ifanc dan sylw. Dywedodd mwyafrif y plant a gafodd eu cyfweld eu bod yn teimlo bod eu hadolygiadau yn rhwystredig ac yn straen, yn aml yn priodoli hyn i berthnasoedd gwael â gweithwyr cymdeithasol ac amheuaeth ynghylch gwerth y broses adolygu. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod y pwysau llwyth gwaith sy’n gwynebu gweithwyr cymdeithasol a’r cyfyngiadau biwrocrataidd sy’n effeithio ar y gwasanaeth a gawsant. Mae’r erthygl yn dadlau dros bwysigrwydd parhaus rôl yr IRO, o ystyried y cysondeb y mae’n ei ddarparu i blant mewn gofal. Mae hefyd yn dangos, er ei fod yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn trafodaethau am eu dyfodol, mae’r Adolygiad Plentyn mewn Gofal yn tanberfformio. Mae’r ymarfer datblygol o blant yn cadeirio eu hadolygiadau eu hunain yn cynnig un ffordd ymlaen ac mae’r erthygl yn galw am ddatblygu hyn ac i gyflwyno dulliau creadigol eraill i alluogi pobl ifanc i chwarae rhan ystyrlon mewn cyfarfodydd sy’n effeithio arnynt.