Gall prifysgol fod yn un o’r amseroedd mwyaf cyffrous ym mywyd person ifanc; mae ganddyn nhw obaith o astudio rhywbeth y mae ganddyn nhw wir ddiddordeb ynddo, cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd a chael lle i wneud y camau cyntaf annibynnol i’r byd. Gyda hyn i gyd ar gael, pam bod pobl ifanc gyda phrofiad o ofal yn sylweddol llai tebygol o fynd i’r brifysgol a chwblhau eu gradd na’r boblogaeth gyffredinol (Jackson 2007)?
Mae nifer union y bobl ifanc gyda phrofiad o ofal sy’n mynd i’r brifysgol yn aneglur. Mae Harrison (2017) yn awgrymu mai’r amcangyfrif gorau yw bod 6% o bobl ifanc â phrofiad o ofal (yn Lloegr; dan 21) yn y brifysgol o’i gymharu â 43% o’u cyfoedion yn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp yn amlwg.
Gan wybod hyn, mae’n bwysig annog pobl ifanc â phrofiad o ofal i fynychu’r brifysgol ac i gyrraedd eu potensial academaidd a chael mynediad at gyfleoedd y maent yn annhebygol o’u cael mewn man arall. Ar hyn o bryd mae hyn yn anodd gan fod llawer o rwystrau, yn enwedig o ran argaeledd cefnogaeth, anogaeth a chyngor ar y llwybrau i brifysgol a thrwyddo.
Un rhwystr cydnabyddedig yw’r ffordd, er gwaethaf ymdrechion llawer o weithwyr cymdeithasol, mae gweithwyr proffesiynol a ffigurau awdurdodol eraill yn eu bywydau yn gweld galluoedd y grŵp yma o bobl ifanc. Gall effaith disgwyliadau academaidd isel gael effeithiau negyddol parhaol. Fodd bynnag, mae ymchwil a gynhaliwyd gan Mannay et al. (2015) yn dangos bod pobl ifanc â phrofiad o ofal yn mynegi uchelgais a dyheadau i lwyddo mewn addysg ac i ddilyn gyrfaoedd sy’n gofyn am gymhwyster lefel prifysgol.
Felly beth sy’n rhwystro neu’n helpu pobl sy’n gadael gofal i drosglwyddo i brifysgol, ac o fewn y brifysgol? Mae astudiaeth ddoethuriaeth wedi archwilio’r cwestiwn yma gan ddefnyddio data o ‘Next Steps’, astudiaeth yn dilyn cynnydd pobl ifanc o Loegr mewn ysgolion uwchradd gwladol neu annibynnol sy’n cynnwys ‘15, 770 o bobl ifanc, 245 ohonynt â phrofiad gofal.
Fel y dangosir yn Ffigur 1 mae canfyddiadau’r rhan yma o’r astudiaeth ehangach yn dangos bod pobl ifanc mewn gofal yn dyheu am fynd i’r brifysgol ond yn meddwl bod eu siawns o ennill lle yn llawer is na’r rhai sydd heb fod mewn gofal. Felly, er bod hanner y bobl ifanc yn dweud y byddent yn gwneud cais i brifysgol, roedd traean yn teimlo eu bod yn annhebygol o gael lle. Mae hyn yn cymharu’n wael â’r mwy na dwy ran o dair o’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal sy’n bwriadu ceisio am le mewn prifysgol, a’r nifer lawer is oedd yn amau y byddent yn cyflawni lle.
Mae’r gwahaniaethau sylweddol yma rhwng pobl ifanc sydd heb brofiadu gofal a’r bobl ifanc gyda phrofiad o ofal yn awgrymu’n gryf bod cael profiad o ofal yn gysylltiedig â lefelau is o ddyhead i fynd i’r brifysgol a theimladau a ellir ennill lle ai peidio. Dadleuodd Mannay et al. (2015) y gallai’r teimladau hyn fod oherwydd tueddiad gweithwyr proffesiynol a gofalwyr I leddfu dyheadau pobl ifanc â phrofiad gofal. Mae’r agwedd besimistaidd hefyd wedi’i chysylltu â’r diffyg gwybodaeth am lwybrau i’r brifysgol ar gyfer pobl ifanc mewn gofal, gan wrthod mynediad iddynt i wybodaeth a allai eu helpu i benderfynu a hoffent fynychu’r brifysgol ai peidio. Mae’r gwahanol bolisïau a threfniadau sydd gan awdurdodau lleol ar waith ledled y DU yn cymhlethu’r mater hwn ymhellach.
Gyda’u gilydd, mae canfyddiadau’r astudiaeth ddoethuriaeth yn cynyddu pryderon ynghylch dyheadau a chynnydd pobl ifanc mewn gofal. Mae gan y bobl ifanc yma yr ysfa a’r gallu deallusol i ffynnu mewn lleoliad prifysgol ond maent yn cael eu rhwystro gan brosesau biwrocrataidd, agweddau negyddol a disgwyliadau isel gan y rhai sy’n gofalu amdanynt. Mae angen mynd i’r afael â’r holl faterion hyn i sicrhau bod cyfleoedd cyfartal i gael mynediad i’r brifysgol ar gael ac yn cael eu cymryd. Ni ddylai bod â phrofiad o ofal yn cyfyngu rhagolygon unigolyn o fynychu’r Brifysgol.
Mae Gemma Allnatt yn Fyfyriwr Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd