Mae Lleisiau o Ofal Cymru wedi bod yn cynnal y prosiect ‘Paratoi’ ar draws ychydig o awdurdodau lleol yng Nghymru ers mis Ionawr 2020. Nod y prosiect hwn yw cefnogi a pharatoi pobl ifanc mewn gofal ar gyfer pontio i fyw’n annibynnol. Yn y blog hwn ar gyfer y Gynhadledd Pontio mae Tracey Carter a Zoe Roberts, Swyddogion Paratoi o Lleisiau o Ofal Cymru, yn amlinellu’r cynllun ac yn rhannu’r adborth pwerus a gawsant gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ar fin gadael gofal?
Eisiau bod yn barod i fyw’n annibynnol?
Gall y Prosiect Paratoi wneud y canlynol:-
- Datblygu cynllun gyda’r person ifanc i’w paratoi ar gyfer symud i fyw’n annibynnol.
- Gwella gwybodaeth y bobl ifanc am eu hawliau a’r pethau y gallan nhw eu hawlio wrth gynllunio i adael gofal, gan gynnwys gwella eu galluoedd ariannol.
- Darparu cymorth a hyfforddiant i’w galluogi i fyw’n annibynnol.
- Canfod amgylchiadau cyflogaeth/addysg a datblygu cynllun ar y cyd i sicrhau nad yw’r broses o bontio o ofal yn amharu ar waith, hyfforddiant a/neu addysg.
- Creu cysylltiadau i ddarparu cymorth cymunedol di-fwlch i gynnal sefydlogrwydd tai.
- Datblygu gwytnwch a mecanweithiau, gan gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag digartrefedd a risgiau cysylltiedig, a gwella eu llesiant cyffredinol.
- Cyfrannu at waith digartref amlasiantaeth i gynorthwyo ac atal digartrefedd a sicrhau sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal yng Nghymru.
Beth mae’r Bobl Ifanc yn ei ddweud am y prosiect a’u Swyddog Paratoi?
‘Rwy’n teimlo eich bod chi’n berson diogel i siarad â chi pan fydd gen i broblemau’n ymwneud â thai, ac y byddwch chi’n trafod ffyrdd o’u datrys nhw’
‘Er nad ydw i’n byw’n annibynnol eto, mae fy swyddog Paratoi wedi fy nghefnogi i’m paratoi ar gyfer yr adeg pan fydda i’n gwneud hynny. Rwyf wedi magu hyder i wneud pethau’n annibynnol. Hyd yn oed drwy’r cyfnod clo, fe wnaethon nhw barhau i’m helpu i aros ar y trywydd iawn gyda fy ngholeg a chael graddau da. Rwy’n gwybod mod i bob amser yn gallu troi atyn nhw am gymorth’
‘Diolch yn fawr i chi am eich holl gefnogaeth a’ch caredigrwydd ar hyd y flwyddyn, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr a dwy ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi’i wneud heboch chi’
‘Eich cael chi yno, fel bod gen i rywun i siarad â nhw os oes gen i rywbeth ar fy meddwl, ac i roi anogaeth ac arweiniad, fel mod i’n cael cyfleoedd. Yn fy marn i, mae’r prosiect paratoi wedi bod yn debyg i beth rwy’n credu byddai aelod o’r teulu yn gwneud’
Beth mae gweithwyr proffesiynol eraill yn ei ddweud am y prosiect?
Mae gweithio gyda’r Prosiect Paratoi wedi bod yn wasanaeth amhrisiadwy. Mae wedi helpu cynifer o’r bobl ifanc rwy’n eu cefnogi yn ogystal â fi fy hun. Roedd yn hawdd iawn troi at y Swyddog Paratoi ac roedd yn barod dros ben i helpu! Does dim byd yn ormod o drafferth! Mae’n gysyniad rhagorol ac yn wasanaeth y mae mawr angen amdano. Alla i ddim diolch digon i’r Swyddog Paratoi a’r prosiect. (PA)
‘Diolch yn fawr am yr holl gefnogaeth i’r Bobl Ifanc a gafodd eu hatgyfeirio; maen nhw wedi elwa cymaint, ac mae’r newidiadau cadarnhaol ynddyn nhw wedi bod yn rhagorol’ (PA)
Mae’n rhoi cymaint o foddhad pan allwch chi helpu person ifanc ac rwy’n falch fy mod wedi gallu atgyfeirio’r ddau ohonyn nhw atoch chi. Dim ond canmoliaeth rwyf wedi’i glywed amdanoch chi gan y ddau ohonynt. (PA)
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i:-
I wneud atgyfeiriad i’r prosiect ewch i:-
Eisiau gwybod mwy am Lleisiau o Ofal Cymru?
Ysgrifennwyd y blog gan Voices from Care Cymru Tracey Carter & Zoe Roberts, Swyddogion Barod