Ydych chi’n gadael gofal mewn gwirionedd os aelod o’r teulu yw eich gofalwr? Cyfnodau pontio yng nghyd-destun gofal gan berthynas
Mae gan yr ymchwilwyr PhD Lorna Stabler, Prifysgol Caerdydd ac Abbie Toner, Prifysgol Suffolk brofiad o fod yn ofalwyr sy’n berthnasau. Mae Lorna wedi gwneud gwaith ymchwil gyda gofalwyr sy’n berthnasau, yn rhan o brosiectau yng Nghymru a Lloegr. Mae gan Abbie brofiad helaeth o gefnogi’r rhai sy’n gofalu am eu teidiau, eu neiniau a’u plant ar ôl cyflawni swydd Gweithiwr Cymorth mewn dau awdurdod lleol a sefydliad yn y trydydd sector.
Yn aml, mae gofal gan berthynas yn cael ei drin a’i drafod fel math arall o ofal i blant a phobl ifanc na allant fyw gyda’u prif ofalwyr blaenorol. Oherwydd hyn, mae’r termau a ddefnyddir ym maes gofal a gwaith cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio ym maes gofal gan berthynas. Fodd bynnag, wrth ystyried y termau hyn ymhellach, mae’n ymddangos nad yw rhai ohonynt yn gwneud llawer o synnwyr. Yn rhan o gynhadledd ExChange sy’n canolbwyntio ar bontio, mae Lorna ac Abbie, mewn podlediad, yn trafod sut y gallem feddwl am bontio ym maes gofal gan berthynas a beth y gallai fod angen i ni ddeall mwy amdano. Byddant yn defnyddio eu profiad o wneud ymchwil, eu hymarfer a’u profiadau go iawn i archwilio’r maes annatblygedig hwn.