Cefnogaeth i rieni yng Nghymru. Darllenwch ein herthyglau rhianta neu siaradwch â ni trwy sgwrs fyw yn Saesneg neu Gymraeg.

Cyngor magu plant y gallwch ymddiried ynddo

Rydyn ni ar gael i gefnogi rhieni pan fo angen. Porwch ein herthyglau ar y cwestiynau rhianta mwyaf cyffredin gan ein harbenigwyr . Neu fe gewch chi sgwrs unigol â hyfforddwr rhianta cymwys am beth bynnag sy’n eich pryderu. Mae popeth am ddim, a does dim cwestiwn rhy fach, rhy fawr neu’n rhy wirion i’w ofyn.

Sgwrs Unigol

Sgwrs cyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr rhianta cymwys. Gallwn ni drafod beth bynnag sy’n effeithio ar fywyd teuluol, gofalu am blant, neu ofalu amdanoch chi. Mae rhai rhieni eisiau trafod eu diwrnod, neu bethau na allan nhw eu trafod â neb arall. Cofiwch ei bod hi’n anodd ein synnu ni. Rhwng popeth, rydyn ni wedi gweld a chlywed pob math o gwestiwn a phryder ynghylch rhianta – does dim na allwn ni eich helpu gyda.

Rydyn ni yma:

  • 12:30-19:30 Dydd Llun
  • 10:30-16:30 Dydd Mawrth
  • 10:30-16:30 Dydd Mercher
  • 12:30-19:30 Dydd Iau
  • 09:30-16:00 Gwener