Fel pob person ifanc, mae plant a phobl ifanc sydd mewn neu yn gadael gofal gyda anghenion, diddordebau ag cymhellion ei hunain i’w dysgu. Mae nhw angen myniediad i ystod o ddarpariaethau dysgu sydd yn darparu mynediad i lwybrau priodol sydd yn eu galluogi i ddatblygu y sgiliau mae nhw eu angen i arwain bywydau llawn, actif ac anibynnol fel gweithwyr ifanc, rhieni a dinasyddion.

Yn ystod 2016, gweithiodd Y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnodd ar gyfer darparwyr ar draws y sector dysgu a sgiliau, gan gynnwys sefydliadau addysg pellach, darparwyr dysgu yn y gwaith, sefydliadau addysg uwch a gwasanaethau dysgu ieuenctid, oedolion a chymunedau- Mae pob un o rhain gyda rol allweddol i chware wrth alluogi plant a phobl ifanc sydd mewn neu yn gadale gofal i gyrraedd eu potensial.

Lawrlwytho Pecyn Cymorth Ymadawyr Gofal Ymweld â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer Arweinwyr Gofal Mae’r adnodd yma yn dilyn pedwar adran allweddol Buttle UK Quality Mark Framework yn agos. Rhain yw:

  • Codi dyheadau ac allgymorth cyn mynediad
  • Cais, mynediad a sefydlu
  • Cefnogaeth barhaus
  • Monitro canlyniadau ac effaith

Yn yr adnodd, fe welwch engreifftiau o ymarferion da ac cwestiynau myfyriol i asesu perfformiad cyfredol ymhob un o’r adranau hyn.

Bydd hyn yn galluogi darparwyr unigol i osod eu targedau SMART eu hunain ar gyfer datblygu eu darpariaeth a’u cefnogaeth i blant a phobl ifanc mewn neu’n gadael gofal.

Mae’r adnodd hwn yn cefnogi uchelgeisiau strategaeth ‘Codi uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal’ ac ymrwyddiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu canlyniadau da i holl blant a phobl ifanc sy’n cael eu edrych ar ôl.