Mewn cydweithrediad ag arbenigwyr ymchwil a chlinigol, rydym wedi cynhyrchu pecynnau briffio sy’n cynnig negeseuon wedi’u seilio ar dystiolaeth ar sut i gefnogi pobl ifanc gyda’r pedwar mater allweddol hwn yn ystod pandemig COVID-19, a thu hwnt.
Mae ein prosiect Co-RAY wedi nodi pedwar prif faes o flaenoriaeth, a fydd yn ganolbwynt i gynhyrchu adnoddau yn ystod hanner cyntaf 2021.
a) rheoli newid ac ansicrwydd
b) yn teimlo wedi diflasu, yn isel ac yn ddigymhelliad
c) yn teimlo’n unig, ynysig a ddigyswllt
ch) annog pobl ifanc i ofyn am gymorth os ydyn nhw’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl.
Pecynnau briffio ar gael i’w lawrlwytho (PDF)
Wedi’i gefnogi gan:
Mae’r rhaglen hon yn cael ei hariannu gan Gronfa Blaenoriaethau Strategol y llywodraeth a’i chyflwyno gan y Cyngor Ymchwil Feddygol gyda Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU.