Gwybodaeth i rieni/ofalwyr
Am beth mae’r astudiaeth a phwy sy’n ei harwain?
Mae tîm astudio SPARKLE (Cefnogi Rhieni a Phlant trwy Brofiadau’r Cyfnod Clo), sydd wedi’i leoli yng Ngholeg y Brenin, Llundain a Phrifysgol Rhydychen, yn chwilio am gyfranogwyr o’r Deyrnas Unedig sy’n rhieni / ofalwyr i brofi’r ap parent positive newydd a ddyluniwyd yn arbennig ganddyn nhw ar sail gwyddoniaeth, gyda’r nod o ddarparu cyngor rhianta ac adnoddau amlgyfrwng a ddatblygwyd gydag arbenigwyr a rhieni enwog i gefnogi rhieni a phlant y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod pontio allan o bandemig Covid-19.
Nod yr ap Parent positive yw gwella ymddygiad a hyder plant a chael effaith gadarnhaol ar les rhieni. Bydd yr ap hefyd yn darparu mynediad i sesiynau ar-lein rheolaidd gydag arbenigwyr rhianta a chyfle i ymuno â fforwm ar-lein i gwrdd â rhieni / gofalwyr ar draws y Deyrnas Unedig a rhannu cyngor ac awgrymiadau magu plant
Beth fydd angen i mi ei wneud?
Yn gyntaf, cwblhewch arolwg prifysgol Rhydychen. Bydd hanner y rhieni / gofalwyr yn cael mynediad i’r ap parent positive ar unwaith, a hanner ar ôl tua dau fis. Bydd pob rhiant / gofalwr yn llenwi holiaduron ar-lein amdanynt eu hunain a’u plentyn unwaith y mis. Bydd yr holl gyfranogwyr yn cael mynediad i’r ap am ddim a 2 daleb e-siopa gwerth £5 i ddiolch am gymryd rhan.
Pwy sy’n gymwys i gymryd rhan?
Rhieni / gofalwyr plant 4-10 oed yn y Deyrnas Unedig, a rhieni / gofalwyr yn y Deyrnas Unedig sydd â mynediad at ffôn clyfar gyda system weithredu OS 8-9 neu uwch ar gyfer android, neu IOS 12-13 neu uwch ar gyfer Apple.
Rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth
Ar beth rydyn ni’n canolbwyntio?
Lansiwyd treial astudiaeth SPARKLE ym mis Rhagfyr 2020 yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Arweinir y treial gan yr Athro Edmund Sonuga-Barke a Dr Kasia Kostyrka-Allchorne o’r Grŵp Ymchwil Seicopatholeg Arbrofol a Niwroddatblygiad (ExPAND) yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn y Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth.
Cawsom ein cymell i lansio’r astudiaeth gan ganfyddiadau Co-SPACE: Prifysgol Rhydychen: Astudiaeth Cefnogi Rhieni, y Glasoed a Phlant yn ystod Cyfnodau o Epidemig – astudiaeth garfan a ariannwyd gan UKRI sy’n olrhain newidiadau yn iechyd meddwl teuluoedd o 2020 ymlaen. Canfu’r astudiaeth fod hyd at 70% o rieni wedi nodi eu bod eisiau cefnogaeth ychwanegol i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad yn eu plant a’u bod wedi profi cynnydd yn y straen cysylltiedig â theuluoedd mewn ymateb i wahanol gyfnodau clo lleol a chenedlaethol trwy gydol pandemig COVID-19. Roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o fynediad llai at ofal plant, pryderon yn ymwneud ag arian a iechyd a chyfnodau estynedig o fod o dan gyfyngiadau ac wedi’u hynysu’n gymdeithasol, sydd i gyd wedi rhoi pwysau mawr ar lawer o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig
Beth yw ein nodau a pha fethodoleg rydym ni’n ei defnyddio?
Mae SPARKLE yn dreial defnydd cyflym rheoli ar hap sy’n gwerthuso a all ymyrraeth rhianta iechyd cyhoeddus digidol helpu rhieni i reoli problemau ymddygiad eu plant, fel yr effeithir arnynt gan bandemig a chyfnodau clo COVID-19 yn y Deyrnas Unedig.
Ein nod yw gwerthuso a all effeithiau negyddol y cyfnod clo gael eu gwyrdroi trwy ddarparu cyngor rhianta’n ddigidol, gan ddefnyddio ap ffôn symudol a luniwyd yn arbennig, Parent Positive. Bydd ap Parent Positive yn darparu cyngor i rieni trwy animeiddiadau, ac yn cyflwyno negeseuon a ddewiswyd yn ofalus gan rieni ac arbenigwyr yn y maes. Bydd y negeseuon yn cael eu hategu ag adnoddau rhianta ymarferol a chyfle i rwydweithio â rhieni eraill i gael cefnogaeth cymheiriaid. Mae’r animeiddiadau, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan yr Athro Sonuga-Barke a thîm Rhianta dan Bwysau Coleg y Brenin Llundain (POP-UP), yn ysgafn, yn ddoniol ac yn anfeirniadol ac yn cael eu cyflwyno gan wyth o enwogion uchel eu proffil sydd hefyd yn rhieni. Mae’r wyth neges yn ymwneud â’r canlynol:
- aros yn bositif ac yn llawn cymhelliant (Olivia Colman)
- sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw (Sharon Horgan)
- meithrin hunanhyder ac ymddiriedaeth eich plentyn (Danny Dyer)
- sicrhau bod eich plentyn yn dilyn cyfarwyddiadau (Rob Brydon)
- hyrwyddo gwell ymddygiad (Jessica Ennis-Hill)
- cyfyngu ar wrthdaro (Holly Willoughby)
- peidio â chynhyrfu pan fydd eich plant yn camymddwyn (Romesh Ranganathan), a
- defnyddio sancsiynau’n ofalus (Shappi Khorsandi).
Bydd cam cychwynnol astudiaeth SPARKLE yn cynnwys 616 o rieni Co-SPACE, y bydd hanner ohonynt yn cael mynediad i’r ap Parent Positive a’r hanner arall ddim. Os bydd canlyniadau’r treial yn gadarnhaol, bydd yr ap yn cael ei ledaenu’n genedlaethol trwy ein cydweithrediad â Public Health England, Adran Addysg y Deyrnas Unedig a llawer o bartneriaid cyfryngau masnachol eraill.
Pwy yw ein partneriaid allweddol?
Mae ein hastudiaeth yn gweithio ar y cyd â Grŵp Ymchwil Ymyriadau Seicolegol Rhydychen ar gyfer Plant a’r Glasoed (TOPIC), Adran Seicoleg Arbrofol, Is-adran Gwyddorau Meddygol Prifysgol Rhydychen yn ogystal â’r Ganolfan Cefnogi Plant a Rhieni, a ariannir gan Sefydliad Elusennol Guy’s a St. Thomas. Mae’n cael ei harwain gan Dr Crispin Day, ac yn cael ei hariannu gan UKRI-ESRC. Cyflwynir yr astudiaeth ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen sy’n gyfrifol am astudiaeth ‘Co-SPACE: Cefnogi Rhieni, y Glasoed a Phlant yn ystod Cyfnodau o Epidemig – astudiaeth garfan a ariannwyd gan UKRI sy’n olrhain newidiadau yn iechyd meddwl teuluoedd o 2020 ymlaen.
Darllenwch y papur crynhoi:
Rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth. Animeiddiad Ap Parent Positive.