Polisi NSPCC Cymru’n galw am well cymorth cam-drin domestig i blant ar draws Cymru
Elinor Crouch-Puzey, NSPCC
Mae goroeswyr sy’n oedolion wedi bod yn dweud wrthym ers tro nad yw eu plant yn dystion goddefol i effaith cam-drin domestig, ond eu bod yn cael eu niweidio’n uniongyrchol, ochr yn ochr â’r rhiant nad yw’n cam-drin, p’un a ydynt yn cael eu cam-drin yn gorfforol ai peidio. Mae’r oes wedi newid, ac erbyn hyn dyw plant ddim yn cael eu ‘gweld ond nid eu clywed’ – mae llunwyr polisïau ac arbenigwyr yn trafod ac yn cydnabod pwysigrwydd clywed lleisiau plant a phobl ifanc a darparu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion. Yng Nghymru, cafwyd ymrwymiad polisi clir i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau Plant wedi’i ymgorffori yn neddfwriaeth Cymru drwy Fesur Hawl Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (VAWDASV), a’i nod yw ceisio gwella trefniadau i atal, diogelu a chefnogi dioddefwyr VAWDASV, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Ond dyw siarad yn costio dim, ac rydym ni’n parhau i weld ‘loteri cod post’ o ddarpariaeth gwasanaeth arbenigol i blant a phobl ifanc. Mae’r ddarpariaeth yn anghyson ac yn bytiog ac mae plant a phobl ifanc yn aros yn rhy hir am wasanaethau hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu VAWDASV, ond mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar blant a phobl ifanc. Er ei bod yn bwysig nad oes ymdeimlad ei bod yn anochel y bydd plant a gaiff eu cam-drin yn mynd ymlaen i gam-drin, mae angen i ni sicrhau eu bod yn deall beth yw perthynas iach a’u bod yn cael eu grymuso i herio ymddygiadau afiach fel oedolion. Croesewir addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol i bob plentyn fel mesur ataliol sylfaenol allweddol, ond mae angen cymorth adferol wedi’i dargedu, fel nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu siapio gan gamdriniaeth. Felly yn NSPCC Cymru mae ein galwadau dros blant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt yn canolbwyntio ar:
- Yr angen am gyllid diogel a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol VAWDASV i blant a phobl ifanc gan Lywodraeth Cymru. Daw’r rhan fwyaf o atgyfeiriadau gan asiantaethau statudol ond daw cyllid ar gyfer gwaith arbenigol gyda phlant a phobl ifanc gan ymddiriedolaethau, ac nid yw hyn yn gynaliadwy. Un o’r hanfodion yw sicrhau bod cefnogaeth i holl ddioddefwyr VAWDASV yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan wasanaethau arbenigol sydd ag adnoddau digonol.
- Blaenoriaeth i blant a phobl ifanc gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n gosod y blaenoriaethau ar gyfer yr ymateb i VAWDASV yn eu hardal. Ar adeg ysgrifennu hwn, rydym ni’n aros i weld strategaeth genedlaethol derfynol VAWDASV Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-26. Mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gosod eu hamcanion ar sail y strategaeth hon. Wrth lobïo, gofynnon ni am sicrwydd y byddai amcanion allweddol yn y strategaeth yn enwi plant a phobl ifanc yn benodol er mwyn sicrhau’r blaenoriaethu a nodwyd uchod. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw plant a phobl ifanc yn cael eu henwi’n benodol, ac rydym ni’n teimlo bod hyn yn effeithio ar ‘loteri cod post’ y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymyrraeth ac atal cynnar, a rhaid i hyn gynnwys rhaglen o hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ystyried hawliau llais y plentyn ac effaith rheolaeth gymhellol ar blant.
Mae effaith VAWDASV yn treiddio ar draws cymunedau a’r gymdeithas yn ehangach, gan greu amgylchedd niweidiol a gofidus i dyfu i fyny ynddo – rhaid i blant a phobl ifanc fod yn greiddiol i’r gwaith os ydym wir am weld dileu VAWDASV.
Rhyddhawyd y blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ynghylch trais domestig, “Gartref y mae’r gofid: deall ac ymateb i gam-drin domestig”.