Ysgrifennwyd gan Marianne Mannello, Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Chwarae Cymru
Mae cael y cyfle i chwarae yn rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn. Mae chwarae yn hwyl ac mae wastad wedi bod yn rhan o sut mae plant yn dysgu ac yn tyfu. Mae’n un o rannau pwysicaf eu bywydau – mae plant yn gwerthfawrogi cael amser, lle, a chefnogaeth i chwarae gartref ac yn eu cymuned leol.
Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant yng Nghymru.
Rydym yn hyrwyddo angen a hawl pob plentyn i chwarae. Rydym yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:
- Codi ymwybyddiaeth– Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o angen plant a phobl ifanc yn eu harddegau a’u hawl i chwarae.
- Hyrwyddo arferion da– Rydym yn hyrwyddo arferion da ar bob lefel o wneud penderfyniadau. Rydym hefyd yn hyrwyddo arfer da lle bynnag y bydd plant yn chwarae.
- Cynnig cyngor ac arweiniad ar draws pob sector– Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad sy’n cefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am, ddarparu ar gyfer chwarae plant.
Mae plant yn dweud wrthym eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored gyda’u ffrindiau. Mae chwarae yn rhan hanfodol o blentyndod iach a hapus. Ein cyfrifoldeb ni’r oedolion yw gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.
Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i gynnig rhagor o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartrefi ac yn eu cymdogaethau. Crëwyd Plentyndod Chwareus i gefnogi:
- Rhieni i roi cyfleoedd i’w plant chwarae.
- Rhieni er mwyn iddynt deimlo’n hyderus ynglŷn â gadael i’w plant chwarae yn yr awyr agored yn y gymuned.
- Datblygiad cymunedau chwareus i blant ledled Cymru.
- Cyd-ddealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae i blant a phobl ifanc yn eu harddegau gan bob oedolyn ledled Cymru.
Rhan ganolog o’r ymgyrch yw gwefan Plentyndod Chwareus.
Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth i rieni a gofalwyr, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Mae rhieni a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig o chwarae i blant – ni waeth pa mor hen ydyn nhw. P’un a yw’ch plentyn yn chwarae cuddio, yn neidio mewn pyllau dŵr, neu’n dechrau bod eisiau mentro allan ar ei ben ei hun gyda ffrindiau, mae adran Magu Plant yn chwareus ar y wefan yn rhoi awgrymiadau a syniadau defnyddiol, yn ogystal ag awgrymiadau ar chwarae i bob plentyn.
Mae gan grwpiau megis cymdeithasau trigolion, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon mewn ysgolion a chynghorau tref a chymuned i gyd ran bwysig i’w chwarae. Gall grwpiau fel y rhain gefnogi drwy drefnu digwyddiadau awyr agored neu ymgyrchu dros ardaloedd chwarae i blant a thrwy helpu i hybu newidiadau mewn agweddau ac arferion. Mae adran Cymunedau Chwareus y wefan yn cynnwys ystod o wybodaeth ac awgrymiadau i helpu grwpiau i ystyried chwarae plant yn eu cymuned.