Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Fel rhan o’u Gweithgareddau Hanner Tymor, mae Theatr y Sherman yn falch iawn o allu cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol AM DDIM i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed. 

Gweler isod fanylion gweithdai hanner tymor y maent yn eu cynnig fel rhan o’u rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu hynod boblogaidd a llwyddiannus. Mae’r gweithdai hyn yn fannau lle gall pobl ifanc archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol, yn ogystal â rhannu eu llais ag eraill, gyda chymorth gan awduron, cyfarwyddwyr ac actorion proffesiynol. 

Cynigir yr holl weithdai hyn yn RHAD AC AM DDIM. Fodd bynnag, dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly cyntaf i’r felin fydd hi. 

I gofrestru eich diddordeb neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tim ac Isaac ar itp@shermantheatre.co.uk


Straeon arswydus: Gweithdy Ysgrifennu Dramâu rhad ac am ddim

Ddydd Llun 31 Hydref, bydd Theatr y Sherman yn agor ei drysau i holl ysbrydion, gwrachod ac eneidiau eraill Caerdydd i gymryd rhan mewn diwrnod arswydus o ysgrifennu dramâu. Wedi’i hwyluso gan ddramodwyr proffesiynol sydd â chariad at bopeth brawychus, a’n Gwneuthurwyr yn Theatr y Sherman, bydd y gweithdy hwn yn fan creadigol diogel a chynhwysol i bob person ifanc. 

Felly, cydiwch yn eich crochan, eich coes ysgub a’ch bloedd Calan Gaeaf mwyaf arswydus ac ymuno â ni am ddiwrnod o ysgrifennu creadigol iasol. 

Bydd y gweithdy Calan Gaeaf hwn yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm yn Theatr y Sherman, Heol Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE. 


Pwy ydw i? Pwy ydych chi? Gweithdy Ysgrifennu Dramâu rhad ac am ddim

Ddydd Mawrth 1 Tachwedd, bydd Theatr y Sherman yn cynnal gweithdy ysgrifennu dramâu i greu a datblygu cymeriadau. Gan archwilio pwy ydym ni trwy greu cymeriadau. P’un a ydych wedi ysgrifennu o’r blaen neu os hoffech roi cynnig arni o’r newydd, bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i greu’r holl gymeriadau anhygoel sydd yn eich pen. 

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei hwyluso gan ddramodwyr proffesiynol a gwneuthurwyr theatr a bydd yn fan creadigol diogel a chynhwysol i bob person ifanc. 

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm yn Theatr y Sherman, Heol Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE. 


Blociau Adeiladu: Gweithdy Ysgrifennu Dramâu rhad ac am ddim

Ar 3 Tachwedd rhwng 10 am a 4pm, bydd Theatr y Sherman yn mynd i Drelái i gyflwyno gweithdy ysgrifennu dramâu yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Elái.

Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Yn bwysicaf oll, mae’n fan lle gallant ddarganfod eu llais a’i rannu ag eraill.

Bydd y gweithdy hwn yn annog pobl ifanc i brofi amrywiaeth o ymagweddau at sgiliau creadigol ac ysgrifennu dramâu wrth ganolbwyntio hefyd ar bethau rydym yn gwybod eu bod yn bwysig i bobl ifanc fel datblygu sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a chydweithio. 


Yn y Dechrau: Gweithdy Ysgrifennu Dramâu rhad ac am ddim

Dechrau yw’r darn anoddaf bob amser. P’un a ydych wedi ysgrifennu o’r blaen neu erioed wedi rhoi cynnig arni, rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddechrau arni. 

Dyna pam, ar ddydd Gwener 4 Tachwedd, mae Theatr y Sherman yn gwahodd pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithdy ysgrifennu dramâu i helpu i ddechrau ysgrifennu creadigol. Gyda chymorth gan ddramodwyr proffesiynol a gwneuthurwyr theatr, rydym yn rhoi’r beiro a’r papur i’r bobl ifanc i adrodd eu stori. 

Rhwng 10am a 4pm, byddant yn croesawu pobl ifanc i’w hystafelloedd ymarfer i ddod o hyd i’w dechrau. Y nod yw creu man lle gall pobl ifanc berthyn, lle gallant fod yn nhw eu hunain ac archwilio’r straeon anhygoel maen nhw eisiau eu hadrodd. 


Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.