Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
‘Tu Mewn Allan’ – Ffotograffau o ardal Butetown yng Nghaerdydd o’r 1970au i’r 1990au gan y brodyr Anthony a Simon Campbell, i’w gweld yn Adeilad Morgannwg. O weld bod lluniau o Butetown wedi’u tynnu gan bobl o’r tu allan i’r ardal gan amlaf, cafodd y brodyr eu hysgogi i unioni’r fantol. Mae ‘Tu Mewn Allan’ yn dogfennu cyfnod o newid ffisegol mawr ac yn dathlu parhad yr ysbryd a’r cymunedau a fu’n byw drwy’r newid hwnnw. Mae’r ffotograffau i’w gweld ym mannau cyhoeddus Adeilad Morgannwg rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener tan ddiwedd mis Tachwedd 2022.
Lleoliad yr Arddangosfa – Prifysgol Caerdydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, Adeilad Morgannwg, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3WT.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.