Mary Wimbury, Fforwm Gofal Cymru 

Mae darparwyr gofal yng Nghymru yn griw amrywiol: sefydliadau bach, lleol, teuluol; corfforaethau mawr ar draws y DU; elusennau; cymdeithasau tai – a dim ond crafu’r wyneb yw hyn… mae Fforwm Gofal Cymru yn dwyn ynghyd 450 o ddarparwyr gofal cofrestredig i rannu arferion da a phroblemau. Rydym ni’n eiriol ar eu rhan i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau: Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr a’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd sy’n comisiynu gofal. 

Bu’r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf yn arbennig o heriol i’r sector. Roedd risg uchel i’r bobl fregus oedd yn derbyn gofal gan ein haelodau os bydden nhw’n dal covid – a gwelsom nifer fawr o drasiedïau’n datblygu. Ond hefyd fe welsom ni’r bobl oedd yn gweithio yn y sector yn mynd y tu hwnt i bob disgwyl.  Staff yn symud i fyw mewn cartrefi gofal i amddiffyn preswylwyr a’u teuluoedd eu hunain. Yn y dyddiau cynnaf, darparwyr gofal yn dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar i gyrchu a gwneud eu PPE eu hunain. Ond hefyd delio â’r frwydr feunyddiol i ddilyn y cyngor diweddaraf ar sut i drin clefyd newydd, hynod beryglus oedd yn esblygu.  

Cyn y pandemig roedd rhannu arferion da ymhlith aelodau’n golygu digwyddiadau wyneb yn wyneb rheolaidd gyda chyfle i rwydweithio ac weithiau cysylltu aelodau â’i gilydd i ddysgu sut i ddelio gyda materion penodol. Fel pawb arall, newidiodd y ffordd roedden ni’n gweithio yn ddramatig bron dros nos. Aethon ni ati ar unwaith i sefydlu grŵp whatsapp i rannu canllawiau newydd ac fel lle i aelodau ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth ond hefyd i godi ymholiadau i ni gael atebion ar sut i ddelio â phethau ar lawr gwlad. Fe wyddom i’r grŵp fod yn amhrisiadwy i’r aelodau – a hynny oherwydd y wybodaeth a hefyd y gefnogaeth gan eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Bellach mae wedi ehangu i amrywiol grwpiau whatsapp ar wahanol agweddau ar ofal ac mewn gwahanol ardaloedd daearyddol o Gymru. Rydyn ni hefyd wedi esblygu o roi diweddariadau wyneb yn wyneb rheolaidd dros ddiwrnod cyfan i seminarau byrrach ar bynciau penodol o ddiddordeb i aelodau. Ar un pwynt roedd ein e-ddiweddariadau misol cyn y pandemig yn mynd allan yn ddyddiol.  Rydyn ni nawr wedi setlo ar drefn wythnosol a’r adborth gan aelodau yw eu bod yn ddefnyddiol. 

Yng ngwres y pandemig roedden ni’n cysylltu’n rheolaidd ac yn aml gyda Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr a chomisiynwyr gofal. Ac rwy’n gwybod eu bod yn teimlo bod yr adborth gan ein haelodau ar lawr gwlad yn amhrisiadwy hefyd. Y perthnasoedd gorau oedd y rheini oedd â phrosesau iteraidd. Yn aml roedd rhaid gwneud penderfyniadau’n gyflym, ar sail tystiolaeth newydd oedd yn ymddangos. Ond pan oedd cyfle i ni ddarparu adborth gan ddarparwyr am y ffordd roedd pethau’n gweithio mewn gwirionedd, roedd modd i ni helpu i fireinio’r penderfyniadau hynny yn y fan a’r lle i gyrraedd sefyllfa lle’r oedd y cyngor diweddaraf yn cael ei roi ar waith mewn ffordd oedd yn gweithio ar lawr gwlad mor gyflym â phosib. 

Wrth inni ddod allan o’r pandemig, yn debyg sefydliadau eraill, a gyda’n partneriaid, rydym ni’n gweithio ar sut i gadw’r pethau positif ac adeiladu ar y rhain wrth i ni wynebu heriau cyfredol cadw a recriwtio staff a phwysau costau byw. Byddwn yn parhau i fod yma yn rhannu arferion da ymhlith darparwyr gofal ac yn eiriol ar eu rhan i sicrhau system gryfach sy’n gweithio i ddarparu gofal i’r bobl sy’n fwyaf agored i niwed. 

This resource was uploaded as part of our conference, ‘Home Comforts’, which is aimed at sharing best practice in adult social care.