Ym Mhrifysgol Caerdydd ac Abertawe gwnaethom ymchwilio i dros 30,000 o blant yng Nghymru i ddeall beth sy’n digwydd dros amser i blant sy’n cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fe wnaethom archwilio’r berthynas rhwng perfformiad plant 16 oed yn yr ysgol a chael eu derbyn i’r ysbyty. Fe wnaethom gymharu pedwar grŵp o blant: (1) plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol; (2) plant ar y gofrestr amddiffyn plant; (3) plant a oedd yn byw gyda’u teuluoedd ac yn cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond nad oeddent mewn perygl a (4) gweddill y plant yng Nghymru.
Canfuom fod y tri grŵp o blant a gafodd help gan y gwasanaethau cymdeithasol yn fwy tebygol o gael triniaeth frys yn yr ysbyty, ac yn llai tebygol o gael canlyniadau TGAU da, o gymharu â phlant nad oedd yn derbyn unrhyw gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Esboniwyd hyn yn rhannol gan anawsterau yn gynharach yn eu plentyndod, er enghraifft problemau teuluol, anabledd a thlodi, ond hyd yn oed ar ôl ystyried y rhain, roedd y plant a gafodd gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol mewn mwy o berygl, o ran eu hiechyd a’u haddysg.
Pan rydym yn cymharu y gwahanol grwpiau o blant sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, cafodd y rhai sydd yng ngofal awdurdod lleol raddau TGAU uwch ar gyfartaledd ac roeddent yn llai tebygol o gael triniaeth frys yn yr ysbyty na’r grwpiau eraill. Roedd y plant ar y gofrestr amddiffyn plant dros bedair gwaith yn llai tebygol na’r plant heb unrhyw gysylltiad â’r gwasanaethau cymdeithasol o gael pum TGAU A* i C. Roedd y plant a oedd mewn angen, ond heb fod mewn perygl, ddwy waith a hanner yn llai tebygol o gael y graddau hyn ar gyfartaledd. Yn seiliedig ar hyn, mae’n eithaf amlwg bod angen mwy o gefnogaeth, neu wahanol fathau o gymorth ar y plant hynny sy’n cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ond yn byw gyda’u teuluoedd.
Bydd seminar ExChange yn cyflwyno crynodeb o ganfyddiadau’r ymchwil a byddai tîm yr astudiaeth yn awyddus i glywed barn gweithwyr proffesiynol ac eraill ar ba welliannau sydd eu hangen i helpu plant sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol i gadw’n iach a chyflawni eu potensial yn yr ysgol.