Pwysigrwydd perthnasoedd gofalu mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion: “cyn gynted ag y dewch chi yma fe gewch chi deimlad o gariad a chefnogaeth”

Fe wyddom y gall perthnasoedd cefnogol cyson gyda phobl eraill wneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol i’n bywydau. Ond mae’r mathau hyn o brofiadau perthynas yn aml ar goll i bobl ifanc yn y system ofal. Mae’r risgiau o berthnasoedd toredig, anghyson ac unigedd yn cynyddu ymhellach i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sydd wedi’u gwahardd o’r ysgol brif ffrwd. Mae’n bwysig felly ystyried rôl perthnasoedd cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc pan fyddwn yn edrych ar ffactorau a allai eu helpu wrth bontio allan o addysg orfodol.

Mae fy astudiaeth bresennol yn tynnu sylw at sut y byddai pobl ifanc â phrofiad o ofal yn treulio cyfnodau hir allan o addysg ar ôl cael eu gwahardd o’r ysgol. Roedd hyn yn golygu eu bod ar ei hôl hi gyda’u dysgu academaidd, ond roedd hefyd yn gwaethygu teimladau o unigedd. Unwaith iddynt gael eu trosglwyddo i uned cyfeirio disgyblion (UCD), roedd staff yn canolbwyntio ar wneud i’r bobl ifanc deimlo eu bod yn cael croeso a chefnogaeth. Roedd hyn yn cynnwys dulliau cyfannol gyda pherthnasoedd agos, cadarnhaol yn cael eu meithrin gyda’r bobl ifanc. Roedd staff yn cydnabod yr angen am amynedd, hiwmor a hyblygrwydd yn eu hymarfer, oedd yn annog y bobl ifanc i ymgysylltu ag addysg unwaith eto. 

O ran edrych ymlaen at fywyd y tu hwnt i’r UCD roedd y bobl ifanc yn mynegi emosiynau cymysg. Roedd llawer yn llawn cyffro am gael mwy o annibyniaeth yn eu bywydau, ond hefyd yn disgrifio teimladau o bryder am eu gallu i ymdopi mewn amgylcheddau newydd. Roedd staff yr UCD yn helpu’r bobl ifanc i ddatblygu cynlluniau cymorth ar gyfer pontio, oedd yn cynnwys ymweld â chyrchfannau newydd. Roedd yr ymweliadau hyn yn gyfle i gwrdd â staff newydd, dod yn gyfarwydd ag amgylchedd newydd, a holi cwestiynau. Roedd tasgau ymarferol eraill hefyd yn cael eu cynnwys yn yr ymweliadau, fel helpu’r bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.   

Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod dysgwyr yn siarad yn gadarnhaol am eu perthnasoedd gyda staff mewn UCD. Mae staff yn rhoi amser i wrando ar bryderon y bobl ifanc, yn parchu eu hanghenion, ac yn chwilio am ffyrdd i symud ymlaen gyda barn y bobl ifanc yn ganolog. Bydd trafodaethau’n parhau am effaith niweidiol gwahardd o’r ysgol a’r defnydd o ddarpariaeth amgen fel UCD. Serch hynny, dylem gydnabod yr hyn y gall UCD ei gynnig i’r sector addysg ehangach, o ran sut mae amgylcheddau a pherthnasoedd cefnogol yn cael eu datblygu gyda’r rhai sy’n aml yn cael eu hystyried yn ‘anodd ymgysylltu â nhw’. 

I rai o gyfranogwyr yr astudiaeth mae’n ymddangos fod cael eu gwahardd o’r ysgol wedi arwain at deimladau o gynhwysiant, unwaith roeddent mewn UCD. Roeddent yn gallu magu hyder ac ail-uniaethu gydag addysg a dysgu. Mae rhwydweithiau cymdeithasol cadarnhaol ac amgylcheddau cynhwysol yn allweddol ar gyfer gwella hyder, gallu a chyfleoedd mewn bywyd. Dylem ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y rhain yn parhau i fod ar gael i’r mwyaf anghenus, fel rhan o’u taith drwy’r system addysg a thu hwnt.

Dr Phil Smith, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), Prifysgol Caerdydd, SmithPR1@caerdydd.ac.uk.

I gael gwybod mwy am yr ymchwil, dilynwch y ddolen isod.

Smith P. 2023. Leaving a Pupil Referral Unit in Wales: Care Experienced Young People and their Post-16 Transitions. International Journal of Educational and Life Transitions, 2(1), 1-13. DOI:10.5334/ijelt.55