Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

26 Hydref, Caerdydd 
9 Tachwedd, Llandudno
9am i 5pm
Gofal Cymdeithasol Cyrmu a BASW Cymru

Bob dydd, mae ein hymarferwyr gwaith cymdeithasol yn cefnogi miloedd o bobl ledled Cymru. I ddathlu’r gwaith rhagorol hwn, ynghyd â BASW Cymru, rydyn ni’n cynnal dwy gynhadledd am ddim yn yr hydref, yng ngogledd a de Cymru.

Mae’r cynadleddau am ddim i’w mynychu, ac maen nhw’n agored i unrhyw un sy’n gweithio mewn gwaith cymdeithasol, yn enwedig ymarferwyr a myfyrwyr. 

Maen nhw’n gyfle i ddathlu’r gwaith ysbrydoledig, y gwerthoedd, yr hunaniaeth a’r pwrpas sy’n ein tynnu at ein gilydd.

Mae’r cynadleddau yn gyfle i chi: 

  • glywed gan ymarferwyr gwaith cymdeithasol eraill a rhannu gwahanol ffyrdd o weithio 
  • ddysgu mwy am ffyrdd newydd o weithio, megis arweinyddiaeth dosturiol ac ymarfer sy’n seiliedig ar gryfder
  • ddysgu sut i ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi llesiant yn y gwaith.

Felly, ymunwch â ni ar 26 Hydref yng Nghanolfan All Nations, Caerdydd neu 9 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno.

Bydd mynychu’r gynhadledd yn cyfrif tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).


Cofrestrwch am ddiweddariadau a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd cofrestru’n agor, fel y gallwch archebu eich lle.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y gynhadledd fel siaradwr, noddwr neu ddeiliad stondin, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb a byddwn ni mewn cysylltiad.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.