Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Y Pythefnos Gofal Maeth hwn, mae arnom eisiau dathlu’n cymunedau maethu yng Nghymru, a phopeth y maent yn ei wneud i sicrhau y gofalir am blant ac y cânt eu cynorthwyo i ffynnu.  Felly, down â’n cymuned ynghyd ar gyfer digwyddiad am ddim, sy’n llawn hwyl: Canwch gyda Ni!

19 Mai 2022
10am – 12pm
Digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim

Ymunwch â ni ddydd Iau, y 19eg o Fai ar gyfer y digwyddiad rhithiol hwn. Ac yntau’n ddigwyddiad a groesawir gan dîm Y Rhwydwaith Maethu Cymru ac arweinydd côr profiadol, mae Canwch gyda Ni yn ymwneud yn gyfan gwbl â chael rhywfaint o amser i ni’n hunain a chysylltu â gofalwyr maeth ledled Cymru.  Nid oes yn rhaid ichi fod yn ganwr gwych neu brofiadol.  Mewn gwirionedd, nid oes yn rhaid ichi fod wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen.  Mae’r pwyslais ar gymryd rhan a chael hwyl.

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i ofalwyr maeth a thimau maethu o bob cwr o Gymru.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.