Mae Llysgenhadon Gwych yn gynllun gan Gomisiynydd Plant Cymru sy’n anelu at hyrwyddo hawliau plant ac UNCRC mewn ysgolion.
Sut mae’n gweithio
Gofynnir i ysgolion ethol dau Lysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Mae gan Lysgenhadon Gwych dair swydd. Sef:
- Rhoi gwybod i ddisgyblion eraill yn eu hysgol am y Comisiynydd a’i phwerau
- Sicrhau bod disgyblion eraill yn gwybod am hawliau plant o dan UNCRC.
- Gwneud cenadaethau arbennig dros y Comisiynydd yn eu hysgol – mae’r rhain yn llywio gwaith ein swyddfa ac yn cael effaith wirioneddol ar ein gwaith ac ar hawliau plant yng Nghymru
5 rheswm dros ymuno
- Mae gwybodaeth a gesglir drwy’r cynllun yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith, sy’n golygu bod ein Llysgenhadon Gwych yn cael effaith wirioneddol ar hawliau plant yng Nghymru.
- Mae’r cynllun yn cynnig ffordd gyffrous a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol ag UNCRC , sy’n sail i weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg.
- Mae’r cynllun yn cefnogi Pedwar Diben y cwricwlwm i Gymru, gan ddarparu cyfleoedd ystyrlon i blant ddatblygu’n unigolion iach, hyderus a chymryd rhan fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus yn eu hysgol ac ar lefel genedlaethol.
- Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu eu hymagweddau at Les a Gofal, Cymorth ac Arweiniad, fel sy’n ofynnol gan Fframwaith Arolygu Estyn 2022.
- Mae’n rhad ac am ddim!
Maen nhw hefyd wedi llunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin i roi mwy o wybodaeth i chi.