Sylwer: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
27 Chwefror 2024
10.00yb – 11.00yb
Arlein trwy Teams
‘Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr i hyrwyddo hawliau plant’
Bydd y weminar hon yn lansio hyb ar-lein ‘Rhieni sy’n Cysylltu Cymru’, a fydd yn darparu gwybodaeth a deunyddiau i gefnogi rhieni i rannu eu barn ar bolisi cenedlaethol a materion cysylltiedig.
Byddwn yn arddangos peth o’r gwaith cyffrous sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan fod rhieni wedi cael cefnogaeth i ‘gymryd rhan’ a ‘chael dweud eu dweud.’ Byddwch yn cael cyfle i gael golwg gyntaf ar y straeon lluniau a’r arddangosfa gelf, lle mae cannoedd o rieni ledled Cymru yn rhannu eu mewnwelediad unigryw a chreadigol i ‘Bywyd fel Rhiant yng Nghymru’, gan ddangos llawenydd a heriau rhianta.
Siaradwyr i’w cadarnhau yn fuan iawn.
Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.