17 Ionawr 2024
09:45 – 16:00
Ar-lein

Gall cyfrifoldebau Cadeirydd fod yn sylweddol. Er bod rhai dyletswyddau, yn ogystal â’r rhinweddau sydd eu hangen i gadeirio’n effeithiol, yn cael eu hamlinellu’n glir mewn canllawiau cysylltiedig, ni ddarperir yr holl gyfrifoldebau sydd gan gadeirydd yn yr un modd, ac ni fanylir arnynt ychwaith.

Bydd y cwrs agored hwn yn edrych ar ddulliau cyffredinol o gynllunio a hwyluso paneli a chyfarfodydd cymhleth yn y sector plant.  Bydd yn trafod ffyrdd o reoli amser a hwyluso grŵp a sicrhau bod y plentyn yn dod gyntaf bob amser wrth ystyried, cyflwyno argymhellion a gwneud penderfyniadau.  Bydd yn galluogi Cadeiryddion cyfarfodydd i ystyried arferion da a dulliau effeithiol o reoli llif gwybodaeth, crynhoi a ffurfio cynlluniau gweithredu allweddol. 

Bydd y cwrs agored hwn yn rhoi’r cyfle i ystyried rôl y Cadeirydd wrth alluogi a chyflawni swyddogaethau sicrhau ansawdd, yn ogystal â rhannu heriau a chyfyng-gyngor cyffredin ac arferion gorau. 

DEILLIANNAU DYSGU

  • Deall y rôl a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chadeirio paneli a chyfarfodydd
  • Ystyried sut i gadeirio cyfarfodydd cymhleth a rheoli dynameg grŵp yn effeithiol
  • Rhoi’r plentyn yn gyntaf bob amser wrth gyflwyno argymhellion a gwneud penderfyniadau mewn cyfarfodydd a phaneli
  • Nodi’r sgiliau a’r wybodaeth berthnasol sydd eu hangen er mwyn
    cadeirio cyfarfodydd yn effeithiol gan gynnwys cyfarfodydd panel mabwysiadu a maethu.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o sut mae gwerthoedd a hanesion personol aelod o gyfarfod panel yn effeithio ar broses y panel a’r cyfarfod
  • Rhannu arferion da

PWY DDYLAI FYND?

Mae’r cwrs agored hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr tîm, uwch-ymarferwyr, ymgynghorwyr arweiniol, uwch-weithwyr cymdeithasol sy’n cadeirio cyfarfodydd a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion paneli maethu a sefydlogrwydd, neu’r rhai sy’n cael eu hystyried ar gyfer y rolau hyn. 

Ar gyrsiau agored gallwn gynnig lle i hyd at bedwar cynrychiolydd yn unig o un sefydliad. I gadw lle ar gyfer grŵp mwy, darllenwch y wybodaeth am hyfforddiant a gomisiynir.

I weithwyr cymdeithasol, gall myfyrio ar y sesiwn hon gyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Mae lle i 22 o i gyd.

CYFLWYNYDD

Alison Davis, Hyfforddwr Cyswllt, CoramBAAF

AMSER

Cofrestru am 9.45 am*
Dechrau am 10.00 am*  
Gorffen am 4.00 pm * 

*Gall yr amseroedd hyn newid

FFIOEDD

Aelod llawn neu aelod cyswllt o CoramBAAF – £125.00 + £25.00 TAW = £150.00
Aelod unigol o CoramBAAF – £105.00 + £21.00 TAW = £126.00
Pawb arall –  £155.00 + £31.00 TAW = £186.00

CYSYLLTU

Ffôn 020 7520 0310

Ebost training@corambaaf.org.uk

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.