Rydym wrth ein bodd o rannu â chi rifyn newydd o’r cylchgrawn i bobl ifanc, Ffynnu, sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rheoli a chymorth ariannol ar gyfer pobl ifanc.
Mae’r rhifyn yn ceisio rhoi sylw i rai o’r pryderon a’r ofnau y dywedodd pobl ifanc wrthym sydd ganddynt am arian; ac mae’n edrych ar ba gymorth sydd ar gael i’w helpu – ynghyd â’n holl erthyglau nodwedd, fel ‘Gofynnwch i Matt’ a ‘Bywyd Go Iawn’. Edrychwn hefyd ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy’n ymadael â gofal yng Nghymru, ac rydym yn cyfweld ag un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i ganfod mwy o wybodaeth.
Mae arnom eisiau dweud diolch yn fawr iawn i’r bobl y gwnaethom gyfweld â nhw ac i Fwrdd Cynghori ar Brofiad Gofal Pobl Ifanc Cymru, a gyfrannodd hefyd tuag at ddatblygu’r cylchgrawn.