Fis Tachwedd y llynedd, gweithiodd y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, y Fforwm Gofal Pobl Ifanc, gydag elusen Brook i drafod pwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal maeth yn cael perthnasoedd iach â phawb o’u cwmpas – ffrindiau, teulu, eu cariadon a’u gofalwyr maeth. Fe wnaethon nhw rannu eu profiadau a’u barn er mwyn llywio’r rhifyn diweddaraf hwn o’r cylchgrawn a’i ddatblygu. Mae’r cylchgrawn yn edrych ar sut y gall pobl ifanc berchnogi eu perthnasoedd, wrth ystyried eu gwerthoedd a bod yn driw iddyn nhw eu hunain. Diolch o galon i’r bobl ifanc a gymerodd ran!