Gan Andrew Whittaker, James Densley a Karin S. Moser (2020) 

Computers in Human Behaviour, 110.

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr Nina Maxwell

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?

Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar y cwestiwn a oedd gwahaniaethau yn nefnydd aelodau gangiau o’r cyfryngau cymdeithasol ar lefel unigol (aelodau iau versus aelodau hŷn) a lefel grŵp  (gangiau llai sefydledig versus gangiau mwy sefydledig) yn Waltham Forest, Llundain. 

Sut aethon nhw ati i astudio hyn?

Astudiaeth dulliau cymysg oedd hon oedd yn cynnwys casglu data mewn dau gam. Yn gyntaf  cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol, lled-strwythuredig gyda chyn-aelodau gangiau, pobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan gangiau, swyddogion heddlu, gweithwyr cyfiawnder troseddol, gweithwyr awdurdod lleol, gan gynnwys diogelwch cymunedol, addysg, cymorth cynnar ac atal terfysgaeth, a gweithwyr llawr gwlad y sector gwirfoddol. Yn ail, profwyd y canfyddiadau cychwynnol gyda dau grŵp ffocws yn cynnwys rhanddeiliaid o asiantaethau llywodraeth leol, gweithwyr cyfiawnder troseddol a gweithwyr llawr gwlad. Oherwydd ystyriaethau moesegol yn ymwneud â diogelwch y bobl a gyfwelwyd a’r ymchwilydd, nid oedd yr astudiaeth yn cynnwys aelodau gweithredol o gangiau.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Canfu’r erthygl fod gangiau’n gwahaniaethu yn eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Yn fras, roedd aelodau hŷn oedd wedi hen sefydlu eu henw yn tueddu i osgoi’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn lleihau’r risg o gael eu canfod gan yr heddlu. Roedd aelodau iau, nad oedd eu henw wedi’i sefydlu i’r un graddau, yn fwy tebygol o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i feithrin enw a statws. Roedd y canfyddiadau’n dangos bod gangiau wedi symud i ffwrdd o lwyfannau agored y gellid eu defnyddio ar gyfer gwyliadwriaeth yr heddlu fel Facebook at lwyfannau wedi’u hamgryptio ar bob pen fel WhatsApp. Caiff apiau fel Snapchat eu defnyddio hefyd i hysbysebu a gwerthu cyffuriau gan nad oes modd cyrchu ffotograffau a negeseuon ar y rhain ar ôl cyfnod penodol fel mater o drefn. O ran y gangiau oedd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, roedd rhai’n defnyddio apiau gyda thracio GPS fel Find MyiPhone neu Find My Friends i gynyddu lefel eu monitro a’u rheolaeth ar aelodau iau, er enghraifft drwy ofyn am dystiolaeth ffotograffig a fideo o’u gweithgareddau. 

Beth yw’r goblygiadau?

Er bod gangiau’n gwahaniaethu yn eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, roedd hyd yn oed y gangiau nad oedd yn eu defnyddio’n gwybod bod modd eu defnyddio fel arf yn eu herbyn, neu y gallen nhw eu defnyddio yn erbyn eu cystadleuwyr. Casgliad yr awduron yw lle bo’r heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn monitro cyfryngau cymdeithasol i ganfod arwyddion o wrthdaro arfaethedig, gellir defnyddio hyn yn effeithiol i ddad-ddwysau sefyllfaoedd cyn i drais difrifol ddigwydd. Mae’r erthygl yn pwysleisio y dylai darparwyr gwasanaeth fod yn ymwybodol y gallai aelodau hŷn o’r gangiau fod yn monitro ac yn rheoli’r aelodau iau yn barhaus drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall gwyliadwriaeth o’r fath gyfyngu ar gyfleoedd pobl ifanc i geisio cymorth.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr Nina Maxwell