Dydd Llun 27 Ionawr
1.00yh – 3.00yh
Sbarc, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ

Ymunwch â ni, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, yn y digwyddiad hwn i ddathlu dros ddegawd o’r WMCS (Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD) a darganfyddwch sut i bori ein data trwy borth data WISERD.  

Astudiaeth hydredol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r WMCS sy’n olrhain cynnydd plant a phobl ifanc yn tyfu i fyny yng Nghymru dros amser. Ers 2012, mae’r prosiect wedi bod yn holi tri grŵp blwyddyn mewn ysgolion uwchradd yn flynyddol. Mae’n darparu cyfoeth o dystiolaeth ar fywydau pobl ifanc ar bynciau fel canfyddiadau disgyblion o’r ysgol, y cwricwlwm newydd, hiliaeth, triniaeth wahaniaethol, ymgysylltu gwleidyddol, a’r Gymraeg, ochr yn ochr â materion mwy byd-eang fel newid hinsawdd. Mae’r WMCS yn adnodd gwerthfawr a ddefnyddir gan ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi ledled Cymru.  

Amseroedd: cyflwyniadau a sesiwn holi ac ateb 1-2.30yh, ac yna lluniaeth ysgafn a rhwydweithio 2.30-3yh.  


Amserlen
1.00pm – 1.10pm       Cofrestru
1.10pm – 1.20pm        Croeso – Dr Rhian Barrance 
1.20pm – 2.00pm       Cyflwyniad – dros ddegawd o’r WMCS – 
                                   Dr Rhian Barrance & Dr Laura Arman 
2.00pm – 2.15pm       Cyflwyniad am y porth – Sam Jones & Prof Scott Orford 
2.15pm – 2.30pm       Sesiwn holi
2.30pm – 3.00pm       Te/coffi a rhwydweithio
 

RSVP drwy lenwi’r ddolen gofrestruhon i gadarnhau eich presenoldeb erbyn 20 Ionawr. 

Rhannwch gyda’ch rhwydweithiau os gwelwch chi’n dda, gydag ymddiheuriadau am unrhyw groesbostio.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.