Y cwricwlwm newydd i Gymru yng nghyd-destun addysg y blynyddoedd cynnar: Cyfleoedd a materion i fynd i’r afael â nhw, y Meysydd Dysgu a Phrofiad, datblygu amgylcheddau ymatebol, cymorth i staff ac arweinyddiaeth, a chodi safonau

Bore dydd Iau, 16 Mehefin 2022

Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i drafod gweithredu cwricwlwm newydd y blynyddoedd cynnar yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae pethau i’w trafod yn cynnwys yr heriau allweddol sy’n gysylltiedig â’r canlynol:

  • asesu – sicrhau bod y cwricwlwm yn blaenoriaethu dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn asesu ac yn gwerthuso cynnydd dysgwyr
  • ansawdd – codi safonau’r ddarpariaeth
  • gweithredu – rheoli newid a rôl arweinyddiaeth yng nghyd-destun addysg y blynyddoedd cynnar
  • meithrin dealltwriaeth – creu mwy o le ac amser i athrawon ddeall a datblygu’r cwricwlwm newydd yn ystod y cyfnod gweithredu
  • hyfforddiant – datblygiad proffesiynol staff a chefnogaeth 
  • pontio i addysg gynradd – gwella’r cysylltiad rhwng addysg y blynyddoedd cynnar ac addysg gynradd a sicrhau bod dysgwyr yn pontio o dan y cwricwlwm newydd mewn ffordd fwy hwylus

Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i ystyried y cwricwlwm a’r fframwaith asesu disgwyliedig ar gyfer addysg feithrin nas cynhelir, drwy drafod y canlynol:

  • blaenoriaethau – ar gyfer y cyfnod cynllunio a gweithredu
  • cymorth – beth arall y gallai lleoliadau blynyddoedd cynnar ei fynnu er mwyn addysgu’r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus
  • heriau – yr heriau allweddol y mae ymarferwyr y blynyddoedd cynnar yn disgwyl eu hwynebu mewn perthynas â’r Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd

Bydd y gynhadledd yn gyfle i randdeiliaid ystyried y materion ochr yn ochr â swyddogion polisi allweddol o Lywodraeth Cymru, y Senedd, Estyn, yr Adran Addysg ac Education Scotland.