Y camau nesaf ar gyfer sgiliau a phrentisiaethau yng Nghymru: Polisi, cymorth, adfer ar ôl y pandemig, mynediad, a chynhwysiant, a diwallu anghenion sgiliau’r dyfodol
Bore Llun 4 Ebrill 2022
Mae’r gynhadledd amserol hon yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer sgiliau a phrentisiaethau yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd polisïau o bwys yn y Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys lansio’r Gwarant i Bobl Ifanc, sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc dan 25 oed i gael addysg, hyfforddiant neu waith, a chreu 125,000 o brentisiaethau i bob oed yng Nghymru – a chyda mesurau ehangach i sbarduno adferiad economaidd yng nghyd-destun y pandemig.
Yn gyffredinol, mae’r meysydd a fydd yn cael eu trafod yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer:
- gweithredu – y materion ymarferol a’r hyn sydd ei angen gan bolisïau i gefnogi adfer ar ôl y pandemig, adfywio a chyfleoedd cyflogaeth
- cyngor gyrfaol – darpariaeth wedi’i theilwra o ansawdd uchel ar gyfer pobl ifanc a dysgwyr aeddfed
- datblygu sgiliau – cefnogaeth, dyfodol mentrau fel y Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr estynedig a rôl prentisiaethau gradd
- cynhwysiant – gwella mynediad at hyfforddiant a datblygiad, codi ymwybyddiaeth, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac ehangu amrywiaeth
- gweithio hyblyg – effaith y cynnydd mewn gweithio gartref, a’r rhagolygon ar gyfer nod hirdymor Llywodraeth Cymru bod 30% o’r gweithlu yn gwneud hyn
- economi’r dyfodol – beth arall sydd ei angen gan y system sgiliau a hyfforddiant i sicrhau ei bod yn hyblyg ac yn gallu cynnwys sgiliau newydd sy’n dod yn hanfodol
Bydd y gynhadledd yn gyfle i randdeiliaid ystyried y materion ochr yn ochr â swyddogion polisi allweddol sydd wedi cael gwahoddiad o Lywodraeth Cymru; Archwilio Cymru; Cadw; Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Ymchwil y Senedd; a’r IPO.