Hunluniau, Snapchat a Chadw’n Ddiogel: deall bywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Cindy Corliss

Mae prosiect Hunluniau, Snapchat a Chadw’n Ddiogel wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Nod y prosiect yw deall bywydau ar-lein pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru.

Mae’r prosiect hwn yn bwysig, oherwydd nid oes llawer o wybodaeth gennym am fywydau ar-lein pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Rydym yn gwybod bod pobl ifanc ar y cyfan yn treulio mwy a mwy o amser ar-lein, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym hefyd yn gwybod y gallai pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal fod yn fwy agored i niwed mewn mannau ar-lein. Mae’r prosiect hwn yn ceisio deall mwy am eu bywydau ar-lein, y pethau da a’r pethau drwg.

Mae dau gam penodol i’r prosiect hwn. Yn gyntaf, cafodd data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) ei ddadansoddi. Nesaf, caiff cyfweliadau eu cynnal â phobl ifanc 13-20 oed ledled Cymru sydd â phrofiad o ofal. Datblygwyd deunyddiau’r cyfweliad gydag ymchwilydd cymheiriaid â phrofiad ym maes gofal ac sydd wedi cael hyfforddiant mewn dulliau ymchwil. Cynhaliwyd peilot gan Voices From Care Cymru.

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal gan Cindy Corliss a’r ymchwilydd cymheiriaid.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu’n gwybod am berson ifanc a allai fod â diddordeb, cysylltwch â fi drwy corlissc@caerdydd.ac.uk.