Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Cyfleoedd a heriau wrth weithredu’r cwricwlwm, y Meysydd Dysgu a Phrofiadau, datblygu amgylcheddau ymatebol, cymorth i staff ac arweinyddiaeth, a chodi safonau

Bore dydd Iau, 16 Mehefin 2022

Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i drafod gweithredu cwricwlwm newydd y blynyddoedd cynnar yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae disgwyl i fframwaith newydd gael ei gyflwyno ym mis Medi eleni sy’n rhoi rhagor o ryddid i addysgwyr gynllunio eu cwricwla eu hunain – gyda chanllawiau eang sy’n rhoi pwyslais ar ddysgu thematig drwy gyflwyno chwe Maes Dysgu a Phrofiad, yn ogystal â rhoi addysg sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a sicrhau iechyd a lles plant.

Bydd trafodaeth hefyd ynghylch gwneud astudiaethau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, a byddwn yn edrych ar arfer gorau o ran gweithredu a sut y gellir cefnogi athrawon wrth addysgu.

Mae pethau i’w trafod yn cynnwys yr heriau allweddol sy’n gysylltiedig â’r canlynol:

  • Asesu – sicrhau bod y cwricwlwm yn blaenoriaethu dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn asesu ac yn gwerthuso cynnydd dysgwyr
  • Ansawdd – codi safonau’r ddarpariaeth
  • Gweithredu – rheoli newid a rôl arweinyddiaeth yng nghyd-destun addysg y blynyddoedd cynnar
  • Meithrin dealltwriaeth – creu mwy o le ac amser i athrawon ddeall a datblygu’r cwricwlwm newydd yn ystod y cyfnod gweithredu
  • Hyfforddiant – datblygiad proffesiynol staff a chefnogaeth
  • Pontio i addysg gynradd – gwella’r cysylltiad rhwng addysg y blynyddoedd cynnar ac addysg gynradd a sicrhau bod dysgwyr yn pontio o dan y cwricwlwm newydd mewn ffordd fwy hwylus

Bydd y digwyddiad yn gyfle i randdeiliaid ystyried y materion ochr yn ochr â swyddogion polisi allweddol o Lywodraeth Cymru, y Senedd, Ymchwil y Senedd, Estyn, yr Adran Addysg, Ofsted, Education Scotland a’r Swyddfa Eiddo Deallusol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Fforwm Polisïau Cymru.

Mae’n ddrwg iawn gennym ond oherwydd cyfyngiadau technegol nid ydym yn siwr a fyddwn yn gallu darparu cyfieithu ar y pryd yn y gynhadledd hon.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.