Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

20 Mawrth 2023
10.00am – 3.00pm
Ar-lein trwy Microsoft Teams

Mae asesiadau iechyd plant yn elfen allweddol i gyflwyno sefydlogrwydd i blant sy’n derbyn gofal. Mae hyn yn cynnwys darparu adroddiadau am effaith hanes cyn-geni plentyn, ei iechyd yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae angen i Gynghorwyr Meddygol fod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth berthnasol, y canllawiau statudol a’r fframwaith cymwyseddau. Mae’n ofynnol iddynt ddehongli gwybodaeth a chyflwyno hyn mewn fformat llawn gwybodaeth ac ystyriol ar gyfer cydweithwyr gofal cymdeithasol, paneli a darpar ofalwyr.

Bydd y cwrs hwn yn ystyried rôl y Cynghorydd Meddygol gyda mabwysiadu sy’n ymwneud â phlant. Bydd yn ymdrin â:

  • sut i gwblhau asesiadau iechyd plant o ansawdd da ar gyfer plant sy’n derbyn gofal;
  • sut i baratoi adroddiadau meddygol cynhwysfawr ar fabwysiadu plant;
  • sut i roi cyngor adeiladol a phriodol i asiantaethau a phaneli mabwysiadu a maethu;
  • effaith ymddygiadau iechyd rhieni mewn perthynas ag iechyd eu plant;
  • sefyllfaoedd cymhleth a heriol, gan gynnwys dehongli gwybodaeth i lywio cynllunio gofal plentyn yn y dyfodol a rheoli ansicrwydd.

D.S. Cynhelir y gweithdy hwn ochr yn ochr ag asesiadau iechyd oedolion.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.