Galwad i bobl gymryd rhan:

Astudiaeth Ymchwil ar Addysgu ar y rhyngwyneb rhwng Bioleg a Chemeg

 Rwy’n gwahodd addysgwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sy’n edrych ar sut mae bioleg a chemeg yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd: y rhyngwyneb rhwng Bioleg a Chemeg’.

Bydd sylwadau o’r astudiaeth hon yn llywio’r llyfr sydd ar ddod: Bridging Chemistry and Biology: Integrative Approaches in Chemical Education (Royal Society of Chemistry, i’w gyhoeddi yn iawn)

 Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

• Addysgwyr ysgol uwchradd, coleg chweched dosbarth /ôl-16, ac addysg uwch

 • Yn addysgu ar hyn o bryd, neu wedi addysgu pynciau sy’n cynnwys bioleg a chemeg yn ystod y 3 blynedd diwethaf

• 18 oed neu’n hŷn

Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?

• Llenwi holiadur dienw ar-lein

 • Mae’n cymryd tua 10–15 munud

• Cewch hepgor unrhyw gwestiynau nad ydych am eu hateb.

Bydd eich mewnbwn yn helpu i nodi heriau, rhannu strategaethau addysgu effeithiol, a llywio canllawiau ymarferol i addysgwyr ledled y byd.

I gymryd rhan, ewch i: https://forms.cloud.microsoft/e/rkThMhvZvw Gofynnir i chi ddarllen y Daflen Wybodaeth i Gyfranogwyr a rhoi caniatâd cyn dechrau

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Claire L. Price, Uwch-ddarlithydd y Gwyddorau Biofeddygol, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe E-bost: c.l.price@abertawe.ac.uk Ethical approval number: 3 2025 14154 14171


Canllawiau gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr 2025: ymgynghoriad

Rydym am eich barn ar y canllawiau gweithredol drafft ynghylch teithio gan ddysgwyr 2025.

Ymateb ar-lein


Cynlluniau addysg personol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal: canllawiau drafft i ymarferwyr

Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol.

Ymateb ar-lein


Data i fonitro’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Hoffem gael eich barn ar newidiadau arfaethedig i ddata am y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.

Ymateb ar-lein


Safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth

Rydym yn ymgynghori ar y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth.

Ymateb ar-lein



Cynlluniau addysg personol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal: canllawiau drafft i ymarferwyr

Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 1 Rhagfyr 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:


Ymchwil i’r defnydd o ddiwrnodau HMS mewn ysgolion

Rydyn ni wedi comisiynu Miller Research i gynnal cyfweliadau â Phenaethiaid ac Uwch Arweinwyr i ofyn am farn a fydd yn llywio polisi yn y dyfodol.  Os ydych chi’n bennaeth neu’n aelod o uwch dîm arwain ysgol ac yn barod i gymryd rhan mewn cyfweliad, cysylltwch â:

Geof Andrews – Miller Research geof@miller-research.co.uk


Rhannwch eich barn ar Fframwaith Gwyddor Gofal Iechyd newydd GIG Cymru

Mae Fframwaith Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru wedi’i lansio’n swyddogol, wedi’i greu fel canllaw defnyddiol sy’n esbonio’r gwahanol rolau, cyfleoedd a llwybrau gyrfa mewn gwyddor gofal iechyd.

Cwblhewch yr arolwg.


Arolwg Rhieni Sengl sy’n Rentwyr

Rhiant sengl? Rhentwr preifat? Wedi wynebu gwahaniaethu? Mae’r grŵp ymgyrchu Hawliau Rhiant Sengl eisiau clywed gennych chi. Maen nhw’n cynnal arolwg i brofiadau rhieni sengl o’r sector rhentu preifat. Dim ond 5 munud y mae’n ei gymryd, mae’r holl ddata yn ddienw a bydd yn cael ei ddefnyddio i lobïo dros newid a mynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn rhieni sengl. Cwblhewch yr arolwg yma.


SYG ac NSPCC: arolwg ‘Diogelwch yn ystod Plentyndod’

Mae arolwg ‘Diogelwch yn ystod Plentyndod’, a ddatblygwyd gan Swyddfa Ystadegau Gwladol ac NSPCC, yn cael ei dreialu mewn ysgolion ledled Cymru a Lloegr o flwyddyn academaidd 2025/26 ymlaen.

Os hoffech gymryd rhan, cofrestrwch drwy ddilyn y ddolen hon.


Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD

Mae astudiaeth addysg hiraf Cymru yn chwilio am gyfranogiad ysgolion i olrhain profiadau disgyblion uwchradd ar y cwricwlwm, gwahaniaethu, ymgysylltiad gwleidyddol, yr iaith Gymraeg a materion byd-eang.

Am wybodaeth pellach ebostiwch wmcs@cardiff.ac.uk


Mae astudiaeth Safety Nets yn recriwtio pobl i gymryd rhan