Arolwg ar gyfer rhieni neu ofalwyr, ac ymarferwyr i archwilio’r anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (SLCN)
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg i ddeall anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant rhwng 5 i 8 oed ac mewn addysg amser llawn.
Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y ffordd y mae pob un ohonom yn byw, yn dysgu ac yn gweithio. Mae’n bosibl y bydd effeithiau’r cyfyngiadau cymdeithasol a orfodwyd, y ffyrdd newydd o ddysgu a gyflwynwyd, a’r newidiadau mewn asesiadau i gyd yn para am amser hir, a dim ond dechrau dod i’r amlwg y mae llawer ohonynt.
Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru, bellach yn cynnal arolwg o’r rhai sy’n gofalu am blant cyfnod y pandemig sydd bellach yn 5 i 8 oed ac mewn addysg llawn amser.
Nod yr ymchwil hon yw deall anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant o’r grŵp oedran hwn. Gofynnir am gyngor a barn arbenigol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, seicolegwyr addysgol, ysgolion yng Ngogledd a De Cymru, therapyddion lleferydd ac iaith a rhieni a gofalwyr.
Ydych chi’n byw yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon? Ydych chi’n rhiant?
Helpwch Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol i Bobl Ddall (RNIB) i wella’r cymorth y mae’ch plentyn yn ei gael ar gyfer eu golwg.
Rydyn ni’n gwybod bod ansawdd y gwasanaethau sy’n rhoi cymorth i blant gyda’u golwg yn gallu amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Rydyn ni am wella a safoni ansawdd y gwasanaethau ar gyfer eich plentyn, fel y gallan nhw gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth i wneud hynny, a gallwch chi ein helpu ni. Bydden ni’n gwerthfawrogi’n fawr petaech chi’n rhoi o’ch amser i gwblhau ein harolwg:
Helpwch ni i wella’r cymorth mae’ch plentyn yn ei gael ar gyfer eu golwg (office.com)