Siarad a gwrando ar blant oedd y prosiect ymchwil cyntaf i arsylwi’n uniongyrchol yr hyn sy’n digwydd pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn cwrdd ac yn cyfathrebu â phlant. Mae’r weminar hon yn tynnu sylw at sut mae’n rhaid deall pob plentyn fel unigolyn unigryw ac mae’n esbonio’r model Cyd-destun Plentyn, a ddatblygwyd o’r ymchwil.

Mae’r weminar hefyd yn cyflwyno Kitbag, adnodd ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, sydd wedi’i gynllunio i hyrwyddo llythrennedd emosiynol plant. Mae Kitbag wedi’i gyflwyno mewn sawl awdurdod lleol gyda llwyddiant mawr, gan helpu gweithwyr cymdeithasol i gyfathrebu’n fwy effeithiol â phlant. Mae’r weminar yn gorffen gyda chwestiynau myfyriol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys cyd-destun gweithio rhithwir yn argyfwng Covid-19.