Ysgrifennwyd gan Zoe Bezeczky

Mae gwasanaethau cadwraeth teulu dwys wedi’u cynllunio i gadw teuluoedd gyda’i gilydd lle bo hynny’n ddiogel ac yn bosibl, ac mae’r dystiolaeth yn addawol. 

Beth yw gwasanaethau cadwraeth teulu dwys? 

Mae gwasanaethau cadwraeth teulu dwys yn cefnogi teuluoedd â phlant sydd mewn perygl uniongyrchol o fynd i ofal. Maent yn ceisio osgoi’r angen i blant fynd i ofal trwy oresgyn yr argyfwng presennol a rhoi cyfle i deuluoedd ddatblygu eu sgiliau. 

Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar y model ‘Homebuilders’ a sefydlwyd yn yr Unol Daleithiau. Mae sawl nodwedd graidd i’r model.  Er enghraifft:  

  • Cysylltir â theuluoedd cyn pen 24 awr ar ôl eu hatgyfeirio.
  • Mae gweithwyr achos ar gael i deuluoedd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Darperir cefnogaeth yng nghartref y teulu dros gyfnod byr o 4-6 wythnos.

Ydyn nhw’n effeithiol? 

Er mwyn deall a yw gwasanaethau cadw teulu ynghyd dwys yn effeithiol o ran lleihau’r angen i blant fynd i ofal, fe fuom ni’n cynnal adolygiad systematig. Roedd yr adolygiad yn cynnwys 33 o astudiaethau.  Roedd yr holl astudiaethau’n cynnwys grŵp o deuluoedd oedd wedi derbyn y gwasanaeth a grŵp cymharu oedd heb ei dderbyn.   

Roedd dau ganfyddiad allweddol. Yn gyntaf, roedd gwasanaethau cadw teulu ynghyd dwys yn tueddu i leihau’r tebygolrwydd o ofal y tu allan i’r cartref. Mewn astudiaethau a oedd yn olrhain canlyniadau plant unigol, gostyngwyd y risg o gael eu rhoi mewn gofal 3, 6, 12 a 24 mis ar ôl yr ymyrraeth. Mewn astudiaethau a oedd yn olrhain canlyniadau teuluoedd, roedd y risg y byddai un plentyn neu fwy yn mynd i ofal yn gostwng yn gyffredinol ond nid ar yr adegau penodol unigol. 

Yn ail, roedd yn amlwg bod effeithiolrwydd y gwasanaeth yn amrywio. Mae hyn yn awgrymu bod ansawdd y gweithredu yn debygol o fod yn hollbwysig.  Gwyddom o’r llenyddiaeth fod y gwasanaethau’n amrywio o ran hyd, dwysedd, ac argaeledd gweithiwr achos y teulu. Ond mae’n debygol y bydd gwahaniaethau pwysig eraill. Er enghraifft, mae’n anoddach dal ac adrodd ar ffactorau personol a chyd-destunol yn y llenyddiaeth, ond gallant chwarae rhan bwysig. Mae angen ymchwil ansoddol bellach i nodi’r elfennau allweddol sy’n galluogi gwasanaethau cadwraeth teulu dwys i fod yn effeithiol. 

Ydyn nhw’n gost-effeithiol? 

Roedd saith astudiaeth yn ein hadolygiad yn cynnwys gwerthusiad economaidd rhannol. Roedden nhw’n darparu rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai’r gwasanaeth arbed costau. Er enghraifft, canfu un astudiaeth fod yr awdurdod lleol wedi arbed £ 1,178 mewn costau lleoliad am bob plentyn a gyfeiriwyd at y gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd y data’n gyfyngedig, ac mae angen gwerthusiadau economaidd llawn. 

Beth mae hyn yn ei olygu o ran ymarfer?

At ei gilydd, ymddengys bod gwasanaethau cadwraeth teulu dwys yn ffordd addawol o leihau nifer y plant sy’n mynd i ofal. Nid yw’n ymddangos bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y Deyrnas Unedig ac mae gwerth posib wrth ei gynnig i deuluoedd. Daeth yr astudiaethau yn ein hadolygiad yn bennaf o’r Unol Daleithiau, felly byddai gwerthusiadau pellach o’r gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig yn fuddiol. 


Ysgrifennwyd gan

Zoe Bezecksy