Ar y 21 ain o Fehefin (Caerdydd) a’r 26 ain o Fehefin (Bangor) croesawodd Exchange Natalie Roberts o Brifysgol Bangor i gyflwyno gweithdy ar brofiadau pobl ifancdigartref sy’ n byw mewn llety a chefnogaeth. Rhannodd canlyddiadau y prosiect a wna ed trwy weithio dydag elusen digartrefedd, wedi’w leoli yng Ngogledd Cymrr, Digartref.

Mynychodd llawer o bobl broffesiynol, gyda nifer ohonynt yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol. Roeddem yn hefyd i gael presenoldeb nifer o’r bobl ifan oeddyn gysylltiedig i’r prosiect ymchwil.

Amcanion y gweithdy oedd:

  • Archwilio rhai o’r materion a rhwystrau mae pobl ifanc yn ei brofiadu tra’n byw mewnllety a chymorth.
  • Rhoi cyfle i ymarferwyr ystyried eu profiadau a chynnig datrysiadau addas.

Er mwyn rhoi cyd-destun i’r astudiaeth, nodwyd rhai nodweddion craidd o letya chymorth:

  • ‘Rhwyd diogelwch’ – darparu llety dros dro i leihau’r peryg di-oed o ddigartrefedd
  • Tŷ wedi ‘rhannu’ – gyda phobl ifanc, yn aml rhwng yr oedrannau 16-25.
  • ‘Cymorth’ – cymorth unigol i weithiwr allweddol mewn maesiau megis iechyd meddwl, byw a sgiliau cymdeithasol.

Gweithgaredd grŵp: Gêm bwrdd

Beth fyddech chi’n blaenoriaethu os fyddech chi’ndylunio rhaglen llety a chymorth?

Mewn grwpiau bach, rhoddwyd £250,000 i fynychwyr (arian ffug!) er mwyn rhannucyllid. Roedd pob sgwâr yn cynrychioli adnodd megis ‘cwnsela’, ‘tocyn bws’, ‘gweithgareddau bach pob wythnos’, ‘sgiliau rheoli arian’, ‘CCTV’ a ‘phrofi cyffuriau’.

Ar y cyfan, dewisodd mynychwyr ardaloedd oedd yn canolbwyntio ar y bobl ifanc ac yn blaenori anghenion e.e. gliniadur, gweithgareddau bach. Dewisodd rhan fwyafohonynt i beidio gwario arian ar fwy nag un math o adnodd awdurdodaidd fel CCTV a phrofi cyffuriau. Er hyn, nododd rhai mynychwyr dylai yr rhain gael eu hystyried ynoresgyniadau o breifatrwydd, efallai byddai eraill yn teimlo’n fwy diogel gyda rhain ynei le.

Rhwystrau a materion

Yna symudodd y gweithdy ymlaen i ystyried y rhwystrau a’r materion sydd yngwynebu y rhai mewn llety a chymorth. Daeth pum parth i’r golwg o’r ymchwil.

  1. Iechyd Meddyliol
  2. Stigma
  3. Maeth
  4. Addysg
  5. Cyflogaeth

1. Iechyd Meddyliol – ‘Wedi gadael i lawr gan wasanaethau’

  • ‘Staff yn cymryd pob swydd’ – Oherwydd toriadau mae yna ddibyniaeth ar staff hostel sydd heb hyfforddiant yn faterion iechyd meddwl. Cytunodd nifer o fynychwyr gydahyn gan ddweud eu fod nhw’n ‘gwneud eu gorau glas’ wrth ddelio gydag anghenioniechyd meddyliol cymhleth.
  • Gwasanaethau Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc dim yn effeithiol – cefnogwydhyn gan fynychwyr a phobl ifanc.
  • Awtistiaeth – Nid yw hosteli wedi cyfarparu ar gyfer awtistiaeth (synauuchel/larymau/newidiadau yn rhigolaeth). Mae’r ymchwil ac ymwybyddiaeth prin yngallu gwneud lletyau â chymorth yn llefydd trallodus iawn i berson ifanc gydagawtistiaeth.

2. Stigma

  • ‘Nid yn fy ngardd gefn i’ – Yn aml roedd gan gymunedau lleol rhagfarn o ddigartrefedd ac ofn cael llety a chymorth yn ei ardaloedd.
  • Landlordiaid yn gwrthod rhentu i bobl ifanc digartref
  • Stigma gan ffrindiau – teimlo’n unig ac yn siomedig

3. Maeth

  • Mae adnoddau cyllid cyfyngedig a diffyg gwybodaeth maethiannol yn golygu bod nifer o bobol ifanc digartref yn bwyta bwyd o safon isel.
  • Banciau bwyd: Gorfodwyd nifer o bobl i ymweld â banciau bwyd sydd prin yndarparu bwyd maethiannol ac yn cyfrannu’n bellach i stigmateiddio pobl ifanc.
  • Mae canlyniadau iechyd hyn yn effeithio’r tymor byr (iselder, blinder, ffwythiantgwybyddol cyfyngedig) a thymor hir (gordewdra, clefyd calon, cancr).

4. Cyflogaeth – ‘Gwrthddywediad yn y system – Swydd neu dŷ?’

Oherwydd y system tai budd-dal, yn aml gorfodwyd pobl ifanc i wneud dewis rhwngcael cyflogaeth neu aros mewn llety â chymorth.

Hefyd, trafododd y mynychwyr rhwystrau systematig eraill sydd yn aml yn cael eucymryd yn ganiataol. Er enghraifft, os mae person ifanc yn ceisio am swydd, mae nhw’n aml yn llai tebygol o gael eu hystyried os ydyn nhw’n rhoi lawreu cyfeiriad hostel. O ganlyniad mae nhw naill ai’n colli’r cyfle neu angen defnyddiocyfeiriad arall gan berthynas neu ffrind.

5. Addysg

  • Nad yw athrawon yn aml yn holl ymwybodol am ddigartrefedd ieuenctid a’r materionwedi wynebu gan y rhai sy’n byw mewn llety â chymorth.
  • Amgylchedd hostel – yn aml ddim yn ffafriol i ddysgu:
  1. Dyfodiad i adnoddau yn brin, Wi-Fi gwael
  2. Yn aml yn swnllyd
  3. Anawsterau trafnidiaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
  • Dim yn gallu fforddio teithiau ysgol, adnoddau addysgiadol – teimlad o unigrwydd a gwahardd ​​SML

Datrysiadau: Rhai o’r nifer o ddatrysiadau wrth yr ymchwil a mynychwyr

1. Iechyd Meddyliol

Carden felen – darparu ciw tawel i wneud staff hostel yn ymwybodol bod chi ddim yniawn – helpu gydag ymestyn allan pan mae siarad yn teimlo’n chwithig.

2. Stigma

Gwaith allanol mewn cymuned ac ysgolion i gynyddu ymwybyddiaeth a herio stigma.

Mynychwyr: Addysgu’r rhai sydd ‘ofn’ digartrefedd ieuenctid e.e. Landlordiaid

3. Maeth

Sesiynau siopa a choginio wythnosol

Mynychwyr: Pecyn cymorth ar-lein sy’n rhoi’r holl wybodaeth yn un lle. E.e. APPs megis ‘Too Good To Go’ sydd yn helpu dosbarthu a defnyddio bwyd a fydd felarall yn cael ei wastraffu.

4. Cyflogaeth

Yn gorfod talu am yr elfen ‘rhent’ (nid cymorth) os mae ganddyn nhw gyflogaeth – dull teg, a fydd yn galluogi person ifanc i gael cymorth wrth sicrhau sefydlogrwydd ynei swydd newydd.

Mynychwyr: Adeg trawsnewid o 6-12 mis ar gyfer rhai sydd yn symud ymlaen – galluogi nhw i ennill annibyniaeth a sefydlogrwydd yn eu llety newydd sydd yn gallubod yn brofiad llethol.

5. Addysg

Addysgu athrawon: elusennau digartref/hosteli yn adeiladu cysylltiadau gydagysgolion

Cynigiad – corfforiad o fodiwl ‘cefnogi digartrefedd’ mewn hyfforddiant athrawon

Mae nifer o ddatrysiadau defnyddiol a chreadigol iawn o’r prosiect ymchwil wedidarparu yn y sleidiau Pwynt Pŵer.

Buddion llety â chymorth

Er gwaethaf y rhwystrau, mae’n bwysig cydnabod buddiannau llety a chymorth a’rswydd allweddol sydd ganddo:

Dyfodiad i gymorth a chyfle i ddatblygu sgiliau

Cymdeithasu/Lleihau arwahaniad: ffrindiau newydd, medru creu perthnasoeddcadarnhaol gyda staff (sydd o gwmpas yn gyson)

Sefydlogrwydd a theimlad o ‘gartref’

Gorffennodd y diwrnod gyda sesiwn Q&A cyflym gyda’r bobl ifanc lle’r oedd ganddynnhw’r cyfle i rannu eu profiadau.

Meddyliau Terfynol

Mae angen rhoi sylw i’r rhwystrau sydd yn gwynebu pobl ifanc mewn lletya chymorth er mwyn iddynt gael dyfodiad cyfartal i lety, cyflogaeth, addysg a iechyd meddwl – ni allwn barhau eu gorfodi nhw i ddewis. Mae llawer o fai ar ffactorauallanol gyda chyfyngiadau ariannol yn gwaethygu’r broblemau a gwahaniaethusystematig a stigma yn gwadu pobl ifanc o’r cyfleoedd maen nhw’n haeddu.

Diolch yn fawr i Natalie Roberts o Brifysgol Bangor a’r bobl ifanc am rannu eu gwaithgyda ni yn y gweithdy yma.