Ddydd Sul, y 29ain o Fedi, roedd grŵp o gerddwyr dewr yn brwydro yn erbyn y gwynt a’r glaw i gerdded llwybr cerdded arfordirol Bae Caerdydd. Wedi’u gwisgo mewn oren llachar, cotiau glaw a gwen ar bob wyneb, roeddent werth eu gweld. Roedd y bobl ryfeddol hyn yn codi arian ar gyfer Taith Gerdded Maethu blynyddol y Rhwydwaith Maethu, Caerdydd.
Roedd y digwyddiad eleni yn llawn chwerthin, gwybodaeth a hwyl. Dechreuodd y daith tua 11 yn y bore gyda’r cerddwyr yn cydio mewn rhywfaint o ffrwythau a dŵr, a roddwyd iddynt yn garedig gan Tesco. Aeth y llwybr â nhw ar hyd y bae a hyd at Benarth. Ar ôl dychwelyd, cafodd ein cerddwyr gwych amrywiaeth o weithgareddau, i ddweud diolch am eu holl waith caled. Cymerodd Techniquest, yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru i gyd ran yn eu stondinau ac roedd y plant wrth eu boddau. Roedd gwledd arbennig hefyd ar ffurf y Côr Lleisiau, a oedd yn cynnwys unigolion â phrofiad gofal, gofalwyr maeth a staff cymorth.
Yn ystod y prynhawn roedd posibilrwydd ennill gwobrau anhygoel yn y raffl, gyda thri theulu yn dod i’r brig. Roedd posib ennill dau degan meddal trwy garedigrwydd Haven Holidays, tocyn diwrnod gwerth £50 a thaith Techniquest o gwmpas Ganolfan Mileniwm Cymru ar gael, does ryfedd eu bod yn mynd adref yn gwenu.
Gwnaeth y mynychwyr hefyd godi llawer o arian, a gyda rhoddion ar y dydd gan y cyhoedd, codwyd tua £700! Llongyfarchiadau enfawr a diolch i bawb a gymerodd ran.
Rydym yn edrych ymlaen at Foster Walk y flwyddyn nesaf!
Diolch yn Fawr
Lucy Macnamara
Rhwydwaith Maethu Cymru
wales@fostering.net
Twitter: @tfn_Wales