Mae’r ddogfen hon gan yr Adran Addysg yn ganllaw ar y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r broses o wahardd disgyblion o ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion (UCD), ysgolion academi (gan gynnwys ysgolion am ddim, ysgolion stiwdio a cholegau technoleg prifysgol) ac academïau darpariaeth amgen (gan gynnwys darpariaeth amgen ysgolion am ddim) yn Lloegr.
Ni ddylid defnyddio’r adrannau ‘canllaw i’r gyfraith’ yn y ddogfen hon yn lle deddfwriaeth a chyngor cyfreithiol.
• Mae’r ddogfen hefyd yn cynnig canllawiau statudol y mae’n rhaid i benaethiaid, byrddau llywodraethu, awdurdodau lleol, ymddiriedaethau academi, aelodau panel adolygu annibynnol ac arbenigwyr anghenion addysgol arbennig eu hystyried wrth fynd drwy’r broses wahardd. Rhaid i glercod paneli adolygu annibynnol gael hyfforddiant er mwyn gwybod a deall y canllawiau hyn.
• Yn y cyd-destun hwn, nid yw’r ymadrodd ‘rhaid eu hystyried’ yn golygu bod angen dilyn pob manylyn o adrannau’r canllawiau statudol, ond yn hytrach y dylid eu dilyn oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud mewn achos penodol.
• Lle bo’n berthnasol, mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at ganllawiau mewn meysydd megis ymddygiad, AAA, a chydraddoldeb, ond ni fwriedir iddi roi canllawiau manwl ar y materion hyn.
• Mae’r ddogfen hon yn disodli’r fersiwn a gyhoeddwyd yn 2012 ar gyfer ysgolion Lloegr.