Mae’n ffaith sy’n parhau ac yn aml yn cael ei hailadrodd gan wleidyddion, academyddion, ymarferwyr a hyd yn oed y bobl ifanc eu hunain. Ac eto, pan fyddaf yn siarad â phobl ifanc mewn gofal neu’n gadael gofal, yn aml yr hyn y maent yn ei nodi i mi fel y peth mwyaf niweidiol a ddywedir amdanynt (neu hyd yn oed wrthynt). Mae’n atgyfnerthu’r syniad bod gan gymdeithas ddisgwyliadau isel o’r hyn y gallant ei gyflawni – bron fel dewis llwm y mae’n rhaid iddynt ei wneud yn wyneb eu bywydau cymhleth. Gwyddom, yn Lloegr, fod tua 6% o’r rhai sy’n gadael gofal (h.y. y rhai sy’n cwrdd â diffiniad yr Adran Addysg) mewn addysg uwch ar eu pen-blwydd yn 19 oed, gyda’r nifer yn codi i 12% erbyn 23 a rhywbeth fel 25% ar draws y cwrs bywyd cyfan. Mae’r rhain yn sicr yn cael eu tancamgyfri am reswm…