Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

6 Medi 2023
Hanner Diwrnod
Hyfforddiant Ar-lein
Codir ffi

Ers gormod o amser, mae llawer o rentwyr yng Nghymru wedi cael bargen arw o ran eu hamodau byw. O ofnau am adrodd am atgyweiriadau, methiant landlord i weithredu ar waith atgyweirio, troi allan dialgar a’r cymhlethdod sy’n gysylltiedig â herio gwaeledd, rydym yn aml yn gweld pobl sy’n byw mewn llety sy’n llawer is na’r safonau rhesymol y dylai unrhyw un eu disgwyl yn y byd modern. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ymgorffori’r prawf addasrwydd i bobl fyw ynddo i hawliau pob deiliad contract.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:

• Meini prawf Addasrwydd am Anheddu Dynol
• Y prif rwymedigaethau ar gyfer landlordiaid mewn perthynas ag atgyweiriadau
• Pan fo’r rhwymedigaeth i atgyweirio yn methu â bod yn berthnasol
• Rhwymedïau cyfreithiol lle na chyflawnir rhwymedigaethau

Mae’r cwrs hwn yn hanfodol ar gyfer:

Unrhyw un sy’n cefnogi pobl sy’n rhentu cartrefi yng Nghymru. Asiantaethau cynghori, swyddogion tai awdurdodau lleol, swyddogion tai cymdeithasau tai, rheolwyr atgyweiriadau ymateb, timau gwagleoedd, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, timau opsiynau tai, asiantau gosod.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.