Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

19 Medi 2023
Diwrnod Llawn
Hyfforddiant ar-lein
Codir ffi

Yn aml iawn, gweithwyr cymorth yw’r bobl gyntaf y mae unigolion yn mynd atynt pan fyddan nhw’n wynebu argyfwng tai. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi cyflwyno iaith a system newydd sy’n bwysig i unrhyw un yn y sector ategol eu deall. Mae gweithwyr cymorth yn cynorthwyo pobl ag anghenion tai bob dydd, felly mae’n rhaid i’w gwybodaeth gwmpasu’r ffordd y mae rhentu yng Nghymru yn gweithio, yn y sectorau preifat a chymunedol.

Pwrpas y cwrs hwn yw ymdrin â’r prif newidiadau a gyflwynwyd gan yr RHWA, tra’n cynnal trosolwg ehangach, a grymuso gweithwyr cymorth i gydnabod pryd y bydd angen cyfeirio eu cleientiaid ymlaen am gyngor mwy cymhleth.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:

• Landlordiaid Sector Preifat a Chymunedol
• Contractau Safonol
• Contractau Sicr
• Deall contractau meddiannaeth (Telerau Sylfaenol, atodol ac ychwanegol)
• Rhwymedigaethau landlordiaid (sicrhau ei bod hi’n addas i bobl fyw yn y tai a rhwymedigaethau statudol eraill)
• Rhwymedigaethau Deiliad Contract
• Ymddygiad Gwaharddedig ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol arall
• Hysbysiadau Dim Bai
• Hysbysiadau ôl-ddyledion rhent
• Gadael a diffyg meddiannaeth.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer:

Dyma gwrs rhagarweiniol sy’n ddelfrydol ar gyfer pob math o weithwyr cymorth, pobl sy’n gweithio mewn swyddi cyfagos â thai o fewn sefydliadau cymorth, a chynghorwyr generig.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.