Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Cwrs e-ddysgu Shelter Cymru
Pan fydd y dirwasgiad yn bwrw a’r marchnadoedd ariannol yn ei chael hi’n anodd, pobl ifanc sy’n aml yn cael eu heffeithio waethaf. Mae prinder cyfleoedd swyddi’n golygu y gall yr ychydig gyflogwyr sy’n cyfweld ddewis ymgeiswyr profiadol nad ydynt yn dod ag anghenion hyfforddi person ifanc sydd newydd adael yr ysgol. I lawer o bobl ifanc, Credyd Cynhwysol fydd yr unig opsiwn nes eu bod nhw’n ddigon ffodus i gael eu swydd gyntaf.
Bydd y cwrs diwrnod llawn hwn yn trin a thrafod rheolau cymhleth ynghylch pryd a sut y gall person ifanc dderbyn Credyd Cynhwysol, yr amodau sy’n gysylltiedig â chais a sut gall gwirfoddoli, enillion untro, grantiau a chyflog, yn y pen draw, effeithio ar gais am Gredyd Cynhwysol.
Mae’r cwrs yn cynnwys
- Pa bobl ifanc all hawlio Credyd Cynhwysol
- Pa elfennau o Gredyd Cynhwysol sydd ar gael i bobl ifanc
- Amodau cymhwyseddBydd y cwrs diwrnod llawn hwn yn trin a thrafod rheolau cymhleth ynghylch pryd a sut y gall person ifanc dderbyn Credyd Cynhwysol, yr amodau sy’n gysylltiedig â chais a sut gall gwirfoddoli, enillion untro, grantiau a chyflog, yn y pen draw, effeithio ar gais am Gredyd Cynhwysol.
- Sut mae gwaith, gwirfoddoli neu astudio yn effeithio ar gais am Gredyd Cynhwysol?
Yn addas ar gyfer:
Mae’r cwrs Pobl ifanc, Credyd Cynhwysol a Gwaith yn un hanfodol i unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc lle mae cymorth yn cynnwys help gydag arian, cael gafael ar grantiau, cael mynediad at fudd-daliadau a/neu gymorth i gael hyfforddiant, addysg neu waith.
O ganlyniad i gynnwys y cwrs hwn a chymhlethdod y pwnc, mae’n hanfodol bod gan gynrychiolwyr ddealltwriaeth gadarn o Gredyd Cynhwysol a enillwyd trwy brofiad neu drwy gwblhau cwrs e-ddysgu Shelter Cymru ar Gredyd Cynhwysol a Chostau Tai sydd ar gael yma.
Gallwch hefyd gysylltu â training@sheltercymru.org.uk.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.