Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

28 Medi 2023
Diwrnod Llawn
Hyfforddiant ar-lein
Codir ffi

Mae’r RHWA wedi cyflwyno newidiadau mawr i’r ffordd y mae’n rhaid rheoli llety â chymorth yn awr. Bydd cyflwyno contractau safonol â chymorth i lety â chymorth yn arwain at fwy o sicrwydd deiliadaeth i unrhyw un dros 18 oed ar ôl iddynt fod yn byw mewn tai â chymorth am 6 mis.

O’r herwydd, mae’n hanfodol bod rheolwyr tai â chymorth a’u cydweithwyr yn deall y rhwymedigaethau ar gyfer darparwyr tai â chymorth o ran contractau safonol â chymorth, a threfniadau ychwanegol i ymestyn y drwydded, a phwerau arbennig sy’n gysylltiedig â symudedd ac allgáu dros dro.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:

• Diffiniad Statudol o “lety â chymorth”
• Cytundebau Eithriedig
• Y “Dull eithriadol o estyn trwydded”.
• Prif nodweddion Contract Safonol â Chymorth
• Cymal Symudedd
• Gwaharddiad Dros Dro a Chanllawiau gan Lywodraeth Cymru
• Polisïau Gwahardd Dros Dro
• Llif Gwaith Gwahardd Dros Dro
• Adolygiad o’r Gwersi a Ddysgwyd
• Dod â Chontract â Chymorth Safonol i ben
• Ymddygiad Gwaharddedig
• Ôl-ddyledion Rhent
• Rhyngweithio â Deddf Tai Cymru 2014

Mae’r cwrs hwn yn hanfodol ar gyfer:

Unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl mewn llety â chymorth. Gweithwyr cymorth, staff opsiynau tai, asiantaethau cynghori.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.