Fe wyddom fod plant yn cael eu dylanwadu gan weithredoedd y sawl sydd o’u cwmpas – ond gwyddom hefyd y gall plant sydd â’r wybodaeth gywir chwarae rhan bwysig wrth newid ymddygiad y sawl sy’n byw yn eu cartrefi. 

Mae National Energy Action(NEA) yn cynnig pecynnau o adnoddau addysg a ddatblygwyd ac a gyflwynir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion gan athro profiadol, ac sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau dysgu.

Trwy rannu’r adnoddau addysg hyn, nod NEA yw gwella dealltwriaeth pobl ifanc mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ynghylch cadw’n gynnes ac yn ddiogel gartref, sut y gallant ddefnyddio ynni’n ddoeth a sut y gallant leihau allyriadau CO2.

Cyfnod Allweddol 1

Gan ddefnyddio clipiau o ‘Hey, Piggy, Piggy’, fersiwn NEA o stori’r Tri Mochyn Bach, mae ein hadnoddau yn cyflwyno myfyrwyr Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 i’r mathau o ddeunyddiau sy’n ynysyddion defnyddiol, ac yn cynnig awgrymiadau cynnar ar gyfer cadw’n gynnes ac yn ddiogel gartref. Gall dosbarthiadau wedyn adeiladu ar y gweithdy hanner diwrnod sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth, drwy ddefnyddio’r adnoddau atodol sydd ar gael, gan ymgorffori llythrennedd, cerddoriaeth a Hanes i hyn – y cyfan yn gysylltiedig â thema ymwybyddiaeth ynni.

Cyfnod Allweddol 2

Mae’r gweithgareddau ystafell ddosbarth hyn ar gyfer myfyrwyr ym Mlynyddoedd 3 — 6 yn ymgorffori gwaith grŵp, trafodaeth a drama, gyda ffocws ar adnabod ffynonellau tanwydd a sut rydym yn eu defnyddio yn y cartref, ac ar gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio nwy a thrydan yn y cartref, yn ogystal ag ar gynnig awgrymiadau ynghylch arbed ynni. Anogir myfyrwyr hefyd i ‘addunedu’ o ran y newidiadau ymddygiad y maent am eu gwneud yn eu defnydd o ynni bob dydd.
Ewch i’n blog Adnoddau ysgol i hyrwyddo defnydd effeithlon o ynni gartref i gael gwybod rhagor.

Cyfnod Allweddol 3

Yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, mae adnoddau NEA yn ymdrin â chyfrifo costau tanwydd, a datblygu ynni solar a gwynt fel ffynonellau ynni adnewyddadwy. Yn rhan o weithdai dosbarth hefyd, ceir cyflwyniad i gyfrifo costau defnyddio offer ac i’r costau o greu ceir a cherbydau sy’n defnyddio ynni’r haul.

Chweched Dosbarth ac Addysg Bellach

I’w defnyddio mewn ABCh, neu weithdai gwella, mae NEA wedi datblygu tasg datrys problemau sy’n canolbwyntio ar arbed a rheoli’r defnydd o ynni mewn llety a rennir. Mae’r gweithgareddau’n cynnig cyflwyniad sylfaenol i ymwybyddiaeth ynghylch ynni, deall costau tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o awgrymiadau o ran arbed ynni i bobl ifanc sydd ar fin mynd i fyw mewn llety’n annibynnol.

Mae NEA hefyd yn cynnig pecynnau addysg pwrpasol ar gyfer grwpiau penodol o bobl ifanc, megis gofalwyr ifanc, neu ar gyfer gwella agweddau penodol ar gwricwlwm Cyfnod Allweddol 4 gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni neu ynni adnewyddadwy. Cysylltwch â ni i drafod sut y gellir teilwra gweithdai ac adnoddau i’ch anghenion.

Os ydych yn rhan o fudiad a hoffai noddi unrhyw un o’r sesiynau mewn ysgolion, neu os ydych yn ysgol/coleg â chyllid i brynu cymorth o ran y cwricwlwm neu weithgareddau gwella, cysylltwch â ni. 

Gallwch ebostio Linda Marsden neu ffonio 0191 269 2902.

Ewch i dudalen Adnoddau Addysgol NEA i gael rhagor o wybodaeth.