Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

CAERDYDD A DE CYMRU

Dyddiad ac amser
Llun, 7 Tachwedd 2022, 14:00 – 16:00 GMT
Lleoliad
Ystafell 1.84, Adeilad Morgannwg Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Rhodfa’r Brenin Edward VII Caerdydd CF10 3WA

BANGOR A GOGLEDD CYMRU

Dyddiad ac amser
Mercher, 9 Tachwedd 2022, 14:00 – 16:00 GMT
Lleoliad
Prif Adeilad y Celfyddydau, Labordy Cyfrifiaduron Prifysgol Bangor, Ystafell CR2 Adeilad 51 Prifysgol Bangor LL57 2DF

Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau drwy gyflwyno gwefan Deall Lleoedd Cymru (UWP) cyn mynd ati i gynnal gweithdy rhyngweithiol ac ymarferol.

Mae Deall Lleoedd Cymru yn rhoi data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol i chi am eich tref neu ardal leol. Mae’r graffeg, y mapiau a’r canllawiau ar y wefan wedi cael eu datblygu i’ch galluogi i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i’ch helpu i nodi cyfleoedd i’ch cymuned leol a gwneud gwahaniaeth yn y lle rydych chi’n byw neu’n gweithio.

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y 307 lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu ragor o drigolion, ac mae gwybodaeth fanylach ar gael ar gyfer y 193 o leoedd sydd â 2,000 o drigolion neu ragor. Gellir gweld data ar gyfer lleoedd llai drwy’r offeryn Mapiau Cymdogaethau.

Mae pob tudalen lle yn darparu data am:

  1. Nodweddion demograffeg, cymdeithasol ac economaidd ardal; 
  2. Pa wasanaethau ac asedau cymunedol sydd ar gael, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus; a
  3. Sut mae pobl yn symud rhwng lleoedd, fel cymudo a phatrymau mudo.

Yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangosir sut y gallwch ddefnyddio’r data am eich ardal leol i’ch helpu i ddeall ble rydych chi’n byw yn well.

Bydd y gweithdy hwn hefyd yn dangos i chi sut i ddefnyddio teclyn cymharu’r wefan a dulliau dosbarthu lleoedd i nodi tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng lleoedd. Gall cymharu lleoedd roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gynnig cyfleoedd i gydweithio a rhannu strategaethau llwyddiannus gyda rhanddeiliaid mewn mannau tebyg i’ch lle eich hun.

Pwy ddylai fynd?

Gall unrhyw un fynd i’r digwyddiad hwn ond bydd yn arbennig o ddefnyddiol i aelodau cynghorau tref a chymuned, sefydliadau cymdeithas sifil, a grwpiau trydydd sector sydd â diddordeb yn eu hardal leol.

Trefnwyr y digwyddiad

Trefnir y digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas ESRC. Caiff ei arwain gan yr Athro Scott Orford a Samuel Jones o Dîm Data WISERD.

Ariennir Deall Lleoedd Cymru gan Ymddiriedolaeth Carnegie y DU a Llywodraeth Cymru, ac fe’i reolir gan Sefydliad Materion Cymru (IWA)Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sydd wedi dadansoddi’r data a datblygu’r wefan. Y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) sydd wedi datblygu’r model cyd-ddibyniaeth.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.