Mae Deall Lleoedd Cymru yn rhoi data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol i chi am eich tref neu ardal leol. Mae’r graffeg, y mapiau a’r canllawiau ar y wefan wedi cael eu datblygu i’ch galluogi i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i’ch helpu i nodi cyfleoedd i’ch cymuned leol a gwneud gwahaniaeth yn y lle rydych chi’n byw neu’n gweithio.

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y 307 lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu ragor o drigolion, ac mae gwybodaeth fanylach ar gael ar gyfer y 193 o leoedd sydd â 2,000 o drigolion neu ragor. Gellir gweld data ar gyfer lleoedd llai drwy’r offeryn Mapiau Cymdogaethau.

Mae pob tudalen lle yn darparu data am:

  1. Nodweddion demograffeg, cymdeithasol ac economaidd ardal; 
  2. Pa wasanaethau ac asedau cymunedol sydd ar gael, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus; a
  3. Sut mae pobl yn symud rhwng lleoedd, fel cymudo a phatrymau mudo.

Prosiect cydweithredol yw Deall Lleoedd Cymru, a’i nod yw creu gwefan y bydd pobl yn mynd ati fel dewis cyntaf er mwyn cael gwybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau Cymru.Ariennir y prosiect tan fis Rhagfyr 2020, ond bydd y wefan yn parhau i gael ei diweddaru am gyfnod hwy.

Mae Ymddiriedolaeth Carnegie y Deyrnas Unedig a’r Sefydliad Materion Cymreig wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat ac o’r trydydd sector, ac maent wedi ymgynghori â phobl ledled Cymru er mwyn creu cynllun ar gyfer y wefan. Ariennir datblygiad y wefan ei hun gan Carnegie a Llywodraeth Cymru. Mae’r wefan wedi’i hadeiladu gan dîm dan arweiniad staff o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda gwaith dadansoddi a phrosesu data ychwanegol yn cael eu darparu gan y Centre for Local Economic Strategies.

Yn ogystal, siapiwyd y wefan gan grŵp traws-sector craidd o bobl â buddiant ac is-grŵp o arbenigwyr data. Daw aelodau’r grwpiau o: Brifysgol Aberystwyth; bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan; yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; Chris Jones Regeneration; Comisiwn Dylunio Cymru; Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; Cyngor Sir Fynwy; y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Un Llais Cymru; Prifysgol Stirling; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a’r adran Cartrefi a Lleoedd yn Llywodraeth Cymru.