Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Cyfres Gweminar Thematig Hawliau Plant – Sesiwn 3
10 Tachwedd 2022, 10yb – 11.30yb
Arlein trwy Teams
YN RHAD AC AM DDIM

Mae ein cyfres gweminar thematig Hawliau Plant yn tynnu ar linynnau allweddol Cynllun a Rhaglen Plant Llywodraeth Cymru. Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, a’r nod yw rhoi gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r rhwystrau sy’n bodoli wrth wireddu hawliau plant yng Nghymru. Mae’r gweminar hwn yn canolbwyntio ar rhianta modern.

Ymunwch â ni ar gyfer y trydydd sesiwn yn ein cyfres bresennol lle byddwch chi’n clywed gan wahanol siaradwyr a fydd yn archwilio natur newidiol bod yn rhiant modern, a sut y gall gweithwyr proffesiynol gefnogi anghenion rhieni a theuluoedd orau.

Bydd y cyflwyniad yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Sut dylen ni ddeall rhieni a’r cartref?
  • Beth rydyn ni’n ei wybod am sut mae rhieni, gofal rhieni a chartrefi yn newid?
  • Beth rydyn ni’n ei wybod am y gefnogaeth mae rhieni eisiau ac angen?
  • Beth mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn ei ddweud wrthyn ni am effeithiolrwydd rhaglenni rhianta o ran ymateb i anghenion teuluoedd â phlant ifanc?

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.