Mae’r pedair cerdd hyn yn archwilio realiti dyddiol a strategaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae pob cerdd wedi’i hysgrifennu gan ddefnyddio’r dyfyniadau uniongyrchol gan y cyfranogwyr ymchwil a fu’n ymwneud â PhD Bridget Handley sy’n ymchwilio i deithiau iechyd meddwl pobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n byw yng Nghymru.  Mae’r adnoddau hyn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg a gellir eu defnyddio i hwyluso trafodaeth ymhlith pobl ifanc ac ymarferwyr mewn ystod o leoliadau gan gynnwys ysgolion, teuluoedd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector.