Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Cyfres Gweminar Thematig Hawliau Plant – Sesiwn 5

2 Chwefror 2023, 10yb – 11.00yb
Arlein trwy Teams
YN RHAD AC AM DDIM

Mae ein cyfres gweminar thematig Hawliau Plant yn tynnu ar linynnau allweddol Cynllun a Rhaglen Plant Llywodraeth Cymru. Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, a’r nod yw rhoi gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r rhwystrau sy’n bodoli wrth wireddu hawliau plant yng Nghymru. Mae’r gweminar hon yn canolbwyntio ar effaith argyfwng ar fabanod, plant ifanc a theuluoedd. 

Ymunwch â ni am y pumed sesiwn yn ein cyfres bresennol a fydd yn cynnwys Sally Hogg, cyd-awdur yr adroddiad ‘Casting Long Shadows’, a fydd yn rhannu effaith barhaus pandemig COVID-19 ar fabanod, eu teuluoedd a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi, ynghyd ag aelod o’r Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar a fydd yn cyflwyno ar yr argyfwng costau byw a sut nawr, yn fwy nag erioed, mae babanod, plant ifanc eu teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi angen help a chefnogaeth.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.