gan Sarah Pink, Harry Ferguson a Laura Kelly – Anthropology in Action, 27(3), 2020, tt. 27-30.  

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio? 

Gwasanaeth cyhoeddus yw gwaith cymdeithasol, ond yn aml iawn mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud eu gwaith yn breifat (Bostock et al, 2018). Yn llawer o’i ymchwil pwysicaf hyd yma, mae’r Athro Henry Ferguson wedi defnyddio dulliau arsylwi i archwilio’r hyn mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud yn ystod ymweliadau cartref a’r ffordd y cytunir ar sut i symud mewn gofod personol agos wrth weithio. Yn yr erthygl hon, mae Ferguson a chydweithwyr yn ystyried effaith Covid-19 ar y math hwn o waith, a sut mae gweithwyr cymdeithasol wedi addasu eu hymarfer gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol a rhithwir.  

Sut aethon nhw ati i’w astudio? 

I wneud hyn, siaradodd yr awduron â gweithwyr cymdeithasol oedd eisoes yn rhan o’u hastudiaethau am y ffordd mae eu gwaith wedi newid o ganlyniad i’r pandemig a’r cyfnodau clo a phellter cymdeithasol. Fel y noda’r awduron, doedd “dim templed yn bodoli ar gyfer symud gwaith cymdeithasol ar-lein mewn cyd-destun gweithio gartref” (t. 28) ac felly roedd yn rhaid i bob awdurdod lleol, ac i raddau pob ymarferydd unigol, ddatblygu eu ffyrdd newydd eu hunain o weithio.  

Beth oedd eu canfyddiadau? 

I rai gweithwyr, roedd gorfod gweithio’n bell o’r plant a’u teuluoedd yn golygu eu bod yn methu â gwneud y pethau y bydden nhw’n eu gwneud fel arfer. Er enghraifft, soniodd un gweithiwr cymdeithasol am sut y byddai’n creu cyswllt â babanod drwy eu cyffwrdd, a disgrifiodd un arall sut y byddai’n defnyddio synnwyr arogli i helpu i farnu a oedd plentyn yn cael ei olchi’n ddigon rheolaidd. Mae cyfathrebu rhithwir yn caniatáu i chi edrych a chlywed, ond nid cyffwrdd nac arogli. Ar y llaw arall, disgrifiodd gweithiwr arall bod rhai plant yn ei chael hi’n haws cyfathrebu â nhw’n ddigidol, naill ai ar alwad fideo neu drwy negeseuon testun.  

Beth yw’r goblygiadau? 

Er nad yw’n bosibl disgrifio aflonyddwch a niwed parhaus y pandemig fel rhywbeth positif, serch hynny, gallai rhai pethau cadarnhaol ddeillio ohono. Mae awduron yr erthygl hon yn awgrymu, hyd yn oed ar ôl y pandemig, y gallai dull hybrid sy’n cyfuno ymweliadau cartref wyneb yn wyneb â rhai mathau o gyfathrebu rhithwir fod yn fwy dymunol ac yn fwy defnyddiol i rai plant a theuluoedd na’r naill ddull neu’r llall yn unig.  


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins