Dim ond cyfran fach iawn o boblogaeth myfyrwyr y DU sydd â phrofiad o ofal, ac o ganlyniad, mae’r rhai sy’n mynd ymlaen i gael mynediad at addysg uwch yn cael eu dathlu’n eang yn y sector. Mae temtasiwn i dybio bod y rhai sy’n gadael gofal sy’n cyflawni’r math hwn o lwyddiant addysgol wedi cael teithiau mwy cadarnhaol a chefnogol trwy’r system ofal na’r mwyafrif. Ac eto, fel y dengys ein canfyddiadau ymchwil diweddaraf, mae llawer o fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal wedi cael gofal anodd ac ansefydlog ac maent wedi symud ymlaen i addysg uwch er gwaethaf yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu.

Mae ein hymchwil, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, yn cynnwys lleisiau 234 o fyfyrwyr â phrofiad o ofal o 29 o brifysgolion ledled Cymru a Lloegr. Mae archwilio’r heriau y mae’r ymadawyr gofal hyn yn eu hwynebu yn caniatáu i ni fyfyrio ar y perthnasoedd a’r prosesau gwneud penderfyniadau sylweddol sy’n ffurfio gofal i bob person ifanc, waeth beth fo’u dewisiadau addysg a gyrfa.

Disgrifiodd llawer o’r rhai a gymrodd rhan gyflwyniadau dryslyd a gofidus i’r system ofal. Cawsant blentyndod wedi’u nodi gan ansefydlogrwydd a achosir gan newid lleoliadau ac ysgolion yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol yn newid yn aml. Roedd eu straeon yn aml yn rhoi argraff benodol o systemau biwrocrataidd lle roedd diffyg cefnogaeth iechyd meddwl ac roedd y stigma o fod â phrofiad o ofal yn bodoli a heb ei herio.

Mae ein hail Adroddiad Canfyddiadau o’r prosiect ‘Llwybrau i’r Brifysgol’ yn cyflwyno 20 o argymhellion wedi’u hanelu at Awdurdodau Lleol, y Llywodraeth a Llunwyr Polisïau – gan eu hannog i gyflymu cefnogaeth a hyrwyddo cyflawniad i bawb sydd â phrofiad o ofal. Gyda lansiad adolygiad gofal y Llywodraeth ym mis Mawrth, mae hwn yn gyfle i wneud cynnydd hir-ddisgwyliedig.

Mae’r animeiddiad canlynol yn cyfleu prif ganfyddiadau ein hail adroddiad ac yn rhannu profiadau pobl ifanc wrth iddynt deithio trwy ofal.

Gwyliwch y ffilm ‘Llwybrau i’r Brifysgol: y Daith trwy Ofal’: